Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14 Ionawr 2008 i’w hateb ar 21 Ionawr 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr oedi parhaus cyn cyhoeddi’r adroddiad am swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol ym mhrosiect Merthyr Tudful. (WAQ50843)
Nick Ramsay (Mynwy): A yw’r Prif Weinidog wedi cwrdd ag Arweinwyr Grwpiau Plaid Lafur 22 Awdurdod Lleol Cymru er mwyn trafod setliad cyllido Llywodraeth Leol eleni. (WAQ50845)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r holl ymgynghorwyr allanol a gyflogwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mhob blwyddyn er 1999, a rhestru faint a wariwyd ar bob un ac at ba ddiben. (WAQ50849)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu gwella gwasanaethau ar reilffordd Calon Cymru. (WAQ50840)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu cyllideb arian cyfatebol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi Rhaglen Cydgyfeirio’r UE 2007 - 2013. (WAQ50848)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa ganran o’r Nwy Naturiol Hylifedig (LNG) a ddarperir yn y derfynell LNG yn Aberdaugleddau a fydd yn cael ei defnyddio yng Nghymru. (WAQ50839)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynyddu’r pellteroedd lleiaf rhwng tyrbinau gwynt ac eiddo. (WAQ50841)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i adolygu hawliau mynediad canŵ-wyr ar afonydd a dyfrffyrdd yng Nghymru. (OAQ50842)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A all y Gweinidog restru’r holl ffermydd gwynt sydd ar waith yng Nghymru, gan roi manylion y gallu a osodwyd, yn ogystal ag enw a chenedligrwydd y gweithredwr. (WAQ50846)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gynyddu microgynhyrchu i gyflenwi ynni. (WAQ50856)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu’r polisi ar gyfer Trefi Arddangos Seiclo.. (WAQ50862) Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wahodd ceisiadau ar gyfer y prosiect Trefi Arddangos Seiclo. (WAQ50863)Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion yr holl dargedau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u gosod ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol er 1999, pan gawsant eu cyflwyno, a phryd y disgwylir eu cyrraedd. (WAQ50850)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ehangu archwiliadau ar gyfer cleifion i ganfod clefyd yn gynt. (WAQ50855)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r amcanion y disgwylir i’r Comisiynydd Pobl Hŷn eu cyflawni yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y swydd. (WAQ50854)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i gyfateb y cyhoeddiadau diweddar a wnaethpwyd gan y Prif Weinidog ynghylch glanhau ysbytai’n drwyadl. (WAQ50859)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa swyddogaeth y mae’r Gweinidog yn ystyried sydd gan lanhau’n drwyadl i leihau heintiau sy’n cael eu dal mewn ysbytai. (WAQ50860)
Gofyn i'r Gweinidog dros Dreftadaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer lleoliadau celf yn y Canolbarth. (WAQ50861)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fandio’r dreth gyngor ar gyfer eiddo sydd yn dal i gael eu trawsnewid. (WAQ50844)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa ddangosyddion y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu defnyddio i fesur didwylledd, tryloywder, atebolrwydd a materion cysylltiedig eraill awdurdodau lleol yng Nghymru, er enghraifft cyfansoddiad pwyllgorau craffu, lefelau ymgynghori cyhoeddus. (WAQ50847)
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u gwneud ar achos Ama Sumani y gorfodwyd iddi adael Cymru a dychwelyd i Ghana er gwaethaf ei chyflwr meddygol terfynol. (WAQ50852)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith datblygu ffermydd gwynt ar dir coediog ar y coedwigoedd a mynediad y cyhoedd atynt. (WAQ50851)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfyngiadau symud da byw ar draws y ffin o Loegr. (WAQ50853)
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gefnogaeth sy’n cael ei gynnig i ffermwyr er mwyn cydymffurfio â rheoliadau ar iechyd, lles a bioddiogelwch er mwyn atal lledaeniad TB mewn gwartheg yng Nghymru. (WAQ50857)
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa ymchwil sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd i frechu moch daear a gwella imiwnedd gwartheg er mwyn mynd i’r afael â TB mewn gwartheg yng Nghymru. (WAQ50858)