Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14 Mehefin 2012
i’w hateb ar 21 Mehefin 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pryd y cafodd y penderfyniad i symud camddefnyddio sylweddau o’r Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau i'r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei weithredu. (WAQ60599)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A gafodd y penderfyniad i symud camddefnyddio sylweddau o’r Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei gymeradwyo gan y cabinet, ac os felly, ar ba ddyddiad a phryd y caiff papur cyfatebol y cabinet ei wneud yn gyhoeddus. (WAQ60600)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa adroddiadau, asesiadau, achosion busnes neu ddogfennau tebyg a gafodd eu paratoi cyn y penderfyniad i symud camddefnyddio sylweddau o'r Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau i'r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. (WAQ60601)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog roi ffigur ar gyfer nifer y ceisiadau am gyllid Ewropeaidd a gyflwynwyd i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru sydd wedi cael eu cymeradwyo yn ystod cylch cyllido 2007-2013, hyd yma. (WAQ60606)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu faint o swyddogion/unigolion o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru/Llywodraeth Cymru sydd, ar gyfartaledd, yn ymwneud â phrosesu cais am gyllid gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. (WAQ60607)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Beth fu’r amserlen arferol hyd yma ar gyfer ymdrin â chais am gyllid gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, o'r dechrau i'r diwedd, yn ystod cylch cyllido 2007-2013. (WAQ60608)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o’r costau teithio a oedd yn gysylltiedig ag ymweliad y Dirprwy Weinidog â Lwcsembwrg, a amlinellwyd mewn ateb i WAQ60217. (WAQ60609)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o nifer y ceisiadau am gyllid Ewropeaidd sydd wedi cael eu cyflwyno i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru bob blwyddyn yn ystod cylch cyllido 2007-2013, hyd yma. (WAQ60610)
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa ymchwil y mae'r Gweinidog wedi'i gomisiynu i’r modd y mae canlyniadau ariannol newidiadau demograffig hirdymor yn effeithio ar ei phortffolio, a pha waith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r effaith hon. (WAQ60617)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa ymchwil y mae'r Gweinidog wedi'i gomisiynu i’r modd y mae canlyniadau ariannol newidiadau demograffig hirdymor yn effeithio ar ei bortffolio, a pha waith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r effaith hon. (WAQ60614)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa ymchwil y mae'r Gweinidog wedi'i gomisiynu i’r modd y mae canlyniadau ariannol newidiadau demograffig hirdymor yn effeithio ar ei bortffolio, a pha waith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r effaith hon. (WAQ60615)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint y bydd Prif Grwp Gwariant yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynyddu, a faint y bydd Prif Grwp Gwariant yr Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lleihau, yn sgîl y penderfyniad i symud camddefnyddio sylweddau o'r Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. (WAQ60602)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth y mae’r Llywodraeth yn disgwyl fydd cost arfaethedig y penderfyniad i symud camddefnyddio sylweddau o’r Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau i'r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a pha gyllid sydd wedi cael ei ddarparu i gefnogi hyn. (WAQ60603)
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o gynaliadwyedd ariannol rhaglen wariant gyffredinol Llywodraeth Cymru rhwng nawr a 2030. (WAQ60611)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Elin Jones (Ceredigion): Faint o gleifion Clefyd Llid y Coluddyn sydd yng Nghymru, a pha gynlluniau sydd ar y gweill i sefydlu Cofrestr o gleifion Clefyd Llid y Coluddyn yng Nghymru fel yr argymhellir yn y Safonau Clefyd Llid y Coluddyn. (WAQ60597)
Elin Jones (Ceredigion): Faint o ysbytai yng Nghymru sydd ag o leiaf un Nyrs Arbenigol Clefyd Llid y Coluddyn, a faint o'r rhain sy'n gweithio ar drefniant amser llawn. (WAQ60598)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Ar gyfer bob rhaglen wariant o dan y pennawd Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau yn y gyllideb, beth oedd y gwariant wedi’i gyllidebu a’r gwariant gwirioneddol ym mhob un o’r tair blynedd diwethaf. (WAQ60604)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa ddarparwyr gwasanaethau a sefydliadau eraill sy’n ymwneud â lleihau nifer yr achosion o gamddefnyddio sylweddau sy’n cael eu cyllido’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru at ddibenion mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau, a faint o arian a gafodd ei neilltuo ar eu cyfer ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf, a faint fydd yn cael ei neilltuo ar eu cyfer ym mhob un o'r tair blynedd nesaf. (WAQ60605)
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa ymchwil y mae'r Gweinidog wedi'i gomisiynu i’r modd y mae canlyniadau ariannol newidiadau demograffig hirdymor yn effeithio ar ei phortffolio, a pha waith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r effaith hon. (WAQ60616)
Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa ymchwil y mae'r Gweinidog wedi'i gomisiynu i’r modd y mae canlyniadau ariannol newidiadau demograffig hirdymor yn effeithio ar ei bortffolio, a pha waith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r effaith hon. (WAQ60612)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ag awdurdodau lleol ynghylch y potensial i lunio cofnod o drafodion cyfarfodydd y Cynghorau. (WAQ60593)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o faint y byddai'n ei gostio i awdurdodau lleol lunio cofnod llawn o drafodion cyfarfodydd cynghorau. (WAQ60594)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o faint y byddai’n ei gostio i awdurdodau lleol wneud recordiad fideo o drafodion cynghorau. (WAQ60595)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ag arweinwyr awdurdodau lleol ynghylch gwneud darllediad fideo o drafodion cynghorau. (WAQ60596)
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa ymchwil y mae'r Gweinidog wedi'i gomisiynu i’r modd y mae canlyniadau ariannol newidiadau demograffig hirdymor yn effeithio ar ei bortffolio, a pha waith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r effaith hon. (WAQ60613)