Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14 Tachwedd 2011 i'w hateb ar 21 Tachwedd 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru hyd yma i ddenu'r Banc Buddsoddi Gwyrdd i Gymru. (WAQ58356)
Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o denantiaid presennol Technium Digidol yn Abertawe ynghyd â dyddiad dechrau a diwedd pob prydles berthnasol. (WAQ58361)
Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o ymgeiswyr sydd wedi ymrwymo i'r prydlesi yn Technium Digidol yn Abertawe ers mis Ebrill 2010. (WAQ58362)
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Beth yw'r broses i gymeradwyo ceisiadau i brydlesu lle yn Technium Digidol yn Abertawe. (WAQ58363)
Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Ar ôl i'r Gweinidog gytuno, yn y cyfarfod llawn ar 9 Tachwedd, i ysgrifennu at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Powys ynghylch y diffyg darpariaeth i nyrsys MS pwrpasol, a wnaiff y Gweinidog hefyd ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, oherwydd tynnwyd fy sylw at y ffaith bod problem debyg yn yr ardal honno. (WAQ58355)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y prinder staff presennol yn IVF Cymru. (WAQ58357)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y samplau sberm wrth gefn a ddinistriwyd yn ddiweddar a oedd wedi'u rhoi gan gleifion sy'n cael triniaeth am ganser ac ymlyniad IVF Cymru i God Ymarfer Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg o ran ei arferion sgrinio a chadw. (WAQ58358)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod digon o gymorth a thriniaeth ar gael i'r rheini sy'n cael gwybod eu bod yn dioddef o ME (syndrom blinder cronig). (WAQ58359)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr ymgynghorwyr MS arbenigol ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru, maint eu baich achosion a pha asesiad y mae hi wedi'i wneud ynghylch pa mor ddigonol yw'r ddarpariaeth. (WAQ58360)