23/03/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2009 i’w hateb ar 23 Mawrth 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog restru ei apwyntiadau ar gyfer dydd Mawrth 17eg Mawrth 2009. (WAQ53791)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu manylion nifer y bobl a gyflogwyd yn swyddfa’r wasg Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ53792)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu manylion costau rhedeg blynyddol, gan gynnwys cyflogau, swyddfa’r wasg Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ53793)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wario ar gyfathrebu mewnol ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53794)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wario ar gyfathrebu allanol ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53795)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wario ar hysbysebu ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53796)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wario ar farchnata uniongyrchol ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53797)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu manylion, gan gynnwys costau, ymgyrchoedd hysbysebu Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pob un o’r tair blynedd ariannol diwethaf. (WAQ53799)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Faint o fyfyrwyr a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a fethodd gyflawni TGAU gradd C mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53789)

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Faint o fyfyrwyr a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a gyflawnodd TGAU gradd A* mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53790)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i ddarparu i ymgyrchoedd a mudiadau i godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ53803)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wario yn ei chyfanrwydd ar nawdd ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53798)

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion, er 1999 a) nifer a swm grantiau Llywodraeth Cynulliad Cymru a roddwyd i fusnesau yng Nghymru sydd wedyn wedi cael eu diddymu neu a roddodd y gorau i fasnachu fel arall; b) swm grantiau o’r fath y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u dileu fel rhai nad oes modd eu hadfer c) swm grantiau o’r fath y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n mynd ar eu trywydd ar hyn o bryd ar gyfer eu had-dalu.  (WAQ53805)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i ddarparu i ymgyrchoedd a mudiadau i fynd i’r afael â gordewdra ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ53802)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i ddarparu i ymgyrchoedd a mudiadau i fynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ53800)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i ddarparu i ymgyrchoedd a mudiadau i fynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau a/neu sylweddau ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ53801)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i ddarparu i ymgyrchoedd a mudiadau i fynd i’r afael â thrais domestig ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ53804)