24/02/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 24 Chwefror 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 24 Chwefror 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa rai o adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru y disgwylir iddynt fod yn adeilad Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yng Nghyffordd Llandudno? (WAQ53449)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Cyfeiriaf at yr ateb a roddais i WAQ52598.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth yw’r amserlenni disgwyliedig ar gyfer cwblhau a llenwi swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd yng Nghyffordd Llandudno? (WAQ53450)

The First Minister: Y nod yw cwblhau’r gwaith adeiladu erbyn gwanwyn 2010. Dilynir hyn gan gyfnod o osod dodrefn a TGCh cyn i’r staff symud i mewn yn haf 2010.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y disgwyliadau presennol ynghylch nifer y gweithwyr a fydd yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd yng Nghyffordd Llandudno? (WAQ53451)

The First Minister: Cyfeiriaf at yr ateb a roddais i WAQ52598.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw’r amcangyfrif o’r gostyngiad yn nifer yr oedolion sy’n dysgu yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2008/09? (WAQ53439)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Cesglir data am ddysgwyr mewn sefydliadau sy’n darparu addysg ôl-16 yng Nghymru drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Caiff data dros dro ar gyfer blwyddyn academaidd 2008/09 ei gyhoeddi mewn Datganiad Ystadegol Cyntaf ym mis Tachwedd 2009.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Faint o gynorthwywyr dosbarth a benodwyd ym mhob blwyddyn er 2005 ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o nifer y penodiadau ar bob graddfa? (WAQ53440)

Jane Hutt: Nid oes gwybodaeth am nifer y cynorthwywyr dosbarth a benodwyd ar gael yn ganolog. Cesglir data am gyfanswm y cynorthwywyr dosbarth mewn ysgolion yn flynyddol drwy’r cyfrifiad ysgol. Ceir data ar gyfer 2005 ymlaen, fesul math o staff, yn nhabl 6.17 o’r cyhoeddiad blynyddol "Ysgolion yng Nghymru: Ystadegau Cyffredinol", sydd â dolen isod.

http://new.wales.gov.uk/topics/statistics/publications/swgs2008/?lang=cy

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at driniaeth lymphoedema ar gyfer cleifion ym Mhowys? (WAQ53459)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Rhaid seilio’r gallu i fanteisio ar driniaeth lymphoedema fod ar angen cleifion, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Arbenigwyr Lymphoedema Cymru i ddatblygu strategaeth i wella hyn.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pryd bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad am y cynlluniau ar gyfer darpariaeth dialysis newydd ym Mhowys? (WAQ53441)

Edwina Hart: Ar ôl ymarfer blaenoriaethu Cymru gyfan a hwyluswyd gan y Grŵp Cynghori Arennol a’r Rhwydweithiau Arennol ar 6 Ionawr 2009, cadarnhawyd bod darpariaeth dialysis newydd ar gyfer Powys yn flaenoriaeth. Caiff arfarniad o’r opsiynau ei gynnal nawr i ystyried gwahanol leoliadau a chyfluniadau ar gyfer y ddarpariaeth newydd ym Mhowys a bydd y Trallwng yn un o’r opsiynau a gaiff ei ystyried. Bydd yr arfarniad hwn o’r opsiynau yn llywio achos busnes a gaiff ei gyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad erbyn mis Medi 2009.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu Cymru fel cyrchfan twristiaeth gwerth-uchel i dwristiaid o’r tu fewn i’r DU ac o dramor? (WAQ53465)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Mae cynyddu gwariant dyddiol ymhlith ymwelwyr i Gymru wedi bod yn amcan allweddol ers tro i Croeso Cymru wrth ddatblygu cynlluniau ac ymgyrchoedd.

Mae’r gwaith i ddatblygu twristiaeth gwerth uchel yn cynnwys partneriaeth Croeso Cymru â 'Wales in Style’, a’i gefnogaeth i’r grŵp annibynnol hwnnw sy’n dewis a dethol ac yn arddangos llety, lleoedd bwyta, diwrnodau allan a digwyddiadau o safon uchel er mwyn hyrwyddo’r profiadau a’r lleoliadau gorau y gall Cymru eu cynnig.

Maes arall o waith yw datblygu Cymru fel lleoliad golff o safon uchel. Mae hon yn farchnad gwariant uchel gyda nifer yr ymwelwyr yn y sector hwn yn cynyddu i 165,000 yn 2007, a chyfraniad cysylltiedig o ychydig dros £26 miliwn i economi Cymru.

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau penodol sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i fanteisio ar gwymp Sterling ac i ddenu mwy o dwristiaeth o’r tu fewn i’r DU i Gymru? (WAQ53464)

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wyrdroi’r dirywiad yng ngwerth twristiaeth o’r tu fewn i’r DU yng Nghymru. (WAQ53462)

Alun Ffred Jones: Yn wyneb y dirywiad economaidd a chryfder yr Ewro mae Croeso Cymru wedi trosglwyddo cyfran o’i gyllideb i dargedu pobl a fyddai fel arfer yn ystyried mynd i Ewrop ar eu prif wyliau gan roi neges iddynt am Gymru. Bydd yn cynnwys:

• Rhestrau postio cwsmeriaid sydd wedi bod ar wyliau yn Ewrop yn flaenorol.

• Prynu 'chwileiriau’ ar gyfer gwyliau yn Ewrop i sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli’n gryf mewn chwilotwyr fel Google.

• Cynnal ymgyrch hysbysebu dactegol ar-lein mewn amgylcheddau lle gallai pobl fod yn chwilio am eu gwyliau tramor a domestig.

Mae Croeso Cymru hefyd wedi cynnwys negeseuon am sut y bydd Cymru’n cynnig mwy o werth am arian na gwyliau tramor yn 2009 ym mhob rhan o’r ymgyrch. Bydd yn ystyried estyn yr ymgyrch a chyflwyno cynigion i ategu’r ymgyrch o wanwyn 09.

O ystyried gwerth twristiaeth y DU yng Nghymru, fel y dywedais yn ystod y drafodaeth ddiweddar ar dwristiaeth ar 11 Chwefror, o ran nifer yr ymwelwyr a’r gwariant, mae ein cyfran ganrannol wedi aros tua’r un peth dros y blynyddoedd diwethaf, ond cafwyd rhai newidiadau, yn bennaf oherwydd ffactorau allanol. Fel y gwyddoch efallai, mae Croeso Cymru wedi lansio ymgyrch farchnata gwerth £2.2 miliwn yn ddiweddar sy’n cwmpasu teledu, sinema ac hysbysebion ar-lein a ategir gan farchnata print ac uniongyrchol.

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gael data Is Gyfrif Twristiaeth ar wariant presennol gan dwristiaid yng Nghymru? (WAQ53463)

Alun Ffred Jones: Mae Croeso Cymru yn disgwyl y bydd data gwariant twristiaeth cyfredol (2008) ar gyfer Cymru ar gael ym mis Mai. Yn dilyn hyn, defnyddir Is-gyfrif Twristiaeth Cymru a’r Model Effaith Twristiaeth i drosi’r data hwn yn amcangyfrifon wedi’u diweddaru o gyfraniad twristiaeth at economi Cymru o ran swyddi a GYC. Cyhoeddir yr amcangyfrifon hyn ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru a sianeli cyfathrebu eraill yng nghanol 2009.