24/09/2014 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 18/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/04/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 17 Medi 2014 i'w hateb ar 24 Medi 2014

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny.  Cyhoeddir yr atebion unwaith iddynt gael eu derbyn yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn y Gymraeg.

 

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar reolaeth Llywodraeth Cymru dros fwynau dan dir Cymru? (WAQ67716W)

Derbyniwyd ateb ar 24 Medi 2014

Carl Sargeant: Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y system gynllunio yng Nghymru, ac am bennu’r fframwaith deddfwriaethol a’r fframwaith polisi ar ei chyfer. Byddai gofyn cael caniatâd cynllunio cyn y byddai modd gweithio unrhyw fwynau o dan y ddaear. Ategir yr angen am ganiatâd cynllunio gan ofynion Iechyd a Diogelwch yn ogystal â chamau rheoli drwy’r drefn Trwyddedu Amgylcheddol.

 

William Graham (Dwyrain De Cymru):  A yw Llywodraeth Cymru yn dal i fwriadu cyflwyno microsglodion gorfodol i bob ci yng Nghymru ar 1 Mawrth 2015, neu a ddigwygiwyd yr amserlen hon erbyn hyn? (WAQ67719)

Derbyniwyd ateb ar 29 Medi 2014

Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd (Rebecca Evans): The date of 1 March 2015 is unlikely to be achieved.  As mentioned in my written statement issued earlier this week, I hope to introduce the draft Identification of Dogs Regulations as soon as possible to maintain the momentum we have built up in relation to moving towards the goal of having all dogs in Wales microchipped.

http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2014/dogs/?lang=en

 

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch gwasanaethau band eang yn Llanarthne? (WAQ67717)

Derbyniwyd ateb ar 24 September 2014 

Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg (Julie James): The Superfast Cymru programme has discussed the provision of superfast broadband in the Dryslwyn exchange area, which covers Llanarthne, as part of the detailed planning, surveying and future roll-out of the programme. Details of future roll-out are regularly updated on the Superfast Cymru website (www.superfast-cymru.com).


 

Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar ganiatáu i brifathrawon awdurdodi myfyrwyr i fod yn absennol am hyd at 10 niwrnod yn ystod tymhorau ysgol yn ôl disgresiwn? (WAQ67718W)

Derbyniwyd ate bar 24 Medi 2014

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau (Huw Lewis): Caiff pob absenoldeb o’r ysgol ei ystyried o ddifrif. Eto i gyd, o bryd i’w gilydd gall amgylchiadau olygu bod angen i ddisgybl golli ysgol yn ystod y tymor. Dyna pam mai penaethiaid sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniad. Mae gan benaethiaid bŵer yn ôl eu disgresiwn i awdurdodi absenoldeb yn ystod y tymor pan fydd rhieni’n gofyn am ganiatâd. Ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol ni ddylai mwy na 10 diwrnod o absenoldeb gael ei ganiatáu at y diben hwn. Dylai pennaeth ystyried yr adeg o’r flwyddyn, hyd a diben yr absenoldeb, yr effaith ar barhad dysgu, amgylchiadau’r teulu, dymuniadau’r rhieni ynghyd â phatrwm presenoldeb cyffredinol y plentyn.