Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 17 Hydref 2012
i’w hateb ar 24 Hydref 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa ymgynghoriad penodol a gafodd Llywodraeth Cymru gyda’r sector manwerthu elusennol fel rhan o’r Adolygiad o Ardrethi Busnes Cymru. (WAQ61399)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Sawl gwaith y mae’r Gweinidog wedi cwrdd â chynrychiolwyr lladd-dai yng Nghymru yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. (WAQ61397)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o arian sydd wedi’i wario hyd yma ar systemau TGCh newydd ar gyfer Corff Adnoddau Naturiol Cymru. (WAQ61398)