Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Ionawr 2008 i’w hateb ar 25 Ionawr 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint yn rhagor o gyllid fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei neilltuo ar gyfer parhau â gwaith ffordd osgoi Gartholwg yn 2008-09. (WAQ50903)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd fydd trefi yng Nghymru yn gallu gwneud cais i fod yn 'Drefi Teithio Cynaliadwy’. (WAQ50917)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnydd cyfredol Llywodraeth Cynulliad Cymru o argaeau trydan dŵr fel ffordd o gynhyrchu pŵer. (WAQ50914)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnydd rhagamcanol Llywodraeth Cynulliad Cymru o argaeau trydan dŵr fel ffordd o gynhyrchu pŵer. (WAQ50913)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i gyflwyno cyllid i helpu fferyllwyr gyda hyfforddiant technegwyr fferyllfa yn yr un modd ag yn yr Alban. (WAQ50915)
Gofyn i'r Gweinidog dros Dreftadaeth
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu swyddogaethau a chyfrifoldebau'r Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru. (WAQ50912)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y caiff y Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru ei gyllido. (WAQ50911)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gyfran o gronfeydd a gaiff y Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ50910)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgelu faint o gyllid Ewropeaidd y mae’r Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru wedi’i gael hyd yn hyn. (WAQ50909)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am a fydd y Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru yn cael rhagor o gronfeydd Ewropeaidd cyn Ebrill 2008. (WAQ50908)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am a oes darpariaeth yng nghyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyllido’r Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru ar ôl mis Ebrill 2008. (WAQ50907)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am a oes gan y Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru dros £5,000 o ddyledion heb eu talu. (WAQ50906)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch pryd y caiff unrhyw ddyledion sydd gan y Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru eu talu. (WAQ50905)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ddarpariaeth y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i sicrhau bod dyledion y gallai fod gan y Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru yn cael eu talu. (WAQ50904)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sut y mae’r broses dilysu ar gyfer taliadau Tir Gofal wedi newid dros y 18 mis diwethaf i ddiwallu unrhyw newidiadau yn y meini prawf Ewropeaidd. (WAQ50916)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o diroedd comin yr effeithiwyd arnynt gan y cwestiwn newydd ar ffurflen taliad sengl 2007, ynghylch datgan hawliadau ar gyfer merlod a cheffylau. (WAQ50918)