25/04/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Ebrill 2012
i’w hateb ar 25 Ebrill 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu dadansoddiad o’r holl gyrsiau hyfforddi y bu gweithwyr Llywodraeth Cymru arnynt yn ystod 2011 a’u costau cysylltiedig. (WAQ60097)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Ers cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ei bod wrthi’n ceisio sefydlu cysylltiadau hedfan rhwng Caerdydd a Tsieina, a wnaiff y Prif Weinidog ddarparu manylion unrhyw ohebiaeth ysgrifenedig neu gyfarfodydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael mewn perthynas â sefydlu’r cyswllt hedfan hwn. (WAQ60105)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael a pha ohebiaeth sydd wedi bod rhwng y Gweinidog a Llywodraeth y DU ynghylch defnyddio TAW ar gartrefi mewn parciau gwyliau (carafanau statig) o fis Hydref 2012 ymlaen. (WAQ60098)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad manwl o gyllid Llywodraeth Cymru a ddyrannwyd o’r gyllideb Addysg i gefnogi unigolion sydd ag Awtistiaeth fesul blwyddyn a phrosiect er 2008. (WAQ60094)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r holl gostau (gan gynnwys cyfraniadau pensiwn) sy’n gysylltiedig â chyflogi Comisiynwyr Addysg Blaenau Gwent. (WAQ60095)

Aled Roberts (Gogledd Cymru): A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i adolygu’r gwahaniaeth rhwng statws QTLS (Athro Cymwysedig Dysgu a Sgiliau) a SAC (Statws Athro Cymwysedig) yng Nghymru. (WAQ60110)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r holl gostau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’r cynnig y rhoddwyd y gorau iddo i ddifa moch daear fel rhan o’r frwydr yn erbyn TB buchol hyd yn hyn. (WAQ60096)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi iechyd anifeiliaid Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gallu ffermwr i ailstocio ar ôl achos o TB buchol, gyda phwyslais penodol ar reoliadau iechyd anifeiliaid newydd o 1 Ionawr 2012 ymlaen yn y maes hwn. (WAQ60104)

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): O gofio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithredu’r Gyfarwyddeb Adar yn llawn, sut y bydd y dynodiadau Parth Cadwraeth Morol arfaethedig yn amddiffyn adar y môr yn well. (WAQ60107)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â melysion a gafodd Llywodraeth Cymru yn 2011. (WAQ60093)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o’r holl bapurau newydd, cylchgronau, cyfnodolion a chyhoeddiadau eraill y mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru a’u huwch staff yn tanysgrifio iddynt a chost flynyddol y tanysgrifiadau hynny. (WAQ60099)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o faint y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wario ar arlwyo a lletygarwch yn 2011. (WAQ60100)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw’r amcangyfrif o werth yr holl dir, gan gynnwys tir a oedd yn arfer bod yn berchen i Awdurdod Datblygu Cymru, sy’n berchen i Lywodraeth Cymru. (WAQ60101)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw’r amcangyfrif o werth y tir sy’n berchen i Lywodraeth Cymru a oedd yn arfer bod yn berchen i Awdurdod Datblygu Cymru. (WAQ60102)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan roi ffigurau ar gyfer pob blwyddyn o 1999 i 2011, a wnaiff y Gweinidog amlinellu cyfanswm gwerth y tir a oedd yn berchen i Lywodraeth Cymru a gafodd ei werthu. (WAQ60103)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd profion gwaed microarae i gleifion ym mhob ardal bwrdd iechyd lleol. (WAQ60106)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa arweinwyr Awdurdod Lleol y mae’r Gweinidog wedi cwrdd â nhw, a sawl gwaith, yn 2011-12. (WAQ60108)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth trên bob awr rhwng Glynebwy a Chasnewydd. (WAQ60109)