25/07/2007 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 25 Gorffennaf 2007

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

David Melding (Canol De Cymru) Pa strategaethau sy’n cael eu datblygu i ddenu swyddi uwch reolwyr i Gymru, er mwyn i’r sector hon o’r farchnad swyddi yng Nghymru gyfatebu’n fwy clos i’r sefyllfa gyfartalog yn y DU. (WAQ50249) David Melding (Canol De Cymru) Pa fesurau sydd ar waith i ddenu fwy o dwristiaeth i drefi a dinasoedd Cymru, yn wyneb y ffaith mai dim ond 15% o ymwelwyr sy’n ymweld ag ardaloedd trefol ar hyn o bryd. (WAQ50250) David Melding (Canol De Cymru) Pa amcangyfrifon a wnaed ynghylch nifer y swyddi a grëwyd dan raglen Amcan Un yn y sectorau canlynol: a) mentrau cymdeithasol; b) cyllid a bancio ac c) gweithgynhyrchu. (WAQ50251)

Gofyn i'r Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru) Pa ymchwiliadau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal i sicrhau bod arian a neilltuwyd ar gyfer Cynlluniau Blynyddoedd Cynnar yn ddigonol i gwrdd â’r galw gan ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol. (WAQ50247) Alun Cairns (Gorllewin De Cymru) Pa fonitro sydd ar waith i sicrhau bod arian a neilltuwyd dan y grant Blynyddoedd Cynnar yn cael ei ddefnyddio at y pwrpas hwnnw gan Awdurdodau Addysg Lleol. (WAQ50248)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion ynglŷn ag ymateb Llywodraeth y Cynulliad i Ddogfen Ymgynghori ynghylch Arfarniad NICE ar ddefnyddio Lucentis i drin dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig ag oedran (AMD). (WAQ50244) Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi ei rhoi i adolygu canllawiau diweddar NICE ynglŷn ag osteoporosis, er mwyn ehangu amred y triniaethau a gynhwyswyd. (WAQ50245) Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad NICE i gynnwys dim ond un driniaeth (Alendronate) yn ei ganllawiau newydd ynglŷn ag Osteoporosis. (WAQ50246) Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y byddai trefniadau gwarchod tâl yn cael eu gweithredu yn yr Agenda ar gyfer Newid er mwyn sicrhau na fyddai cyflogau staff yn is ar ôl cymhathu. (WAQ50254) Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan faint o apeliadau a wnaed i’r Ganolfan Gwasanaethau Busnes ynghylch pryderon dros newidiadau mewn tâl yn dilyn cymhathu’r Agenda ar gyfer Newid, ac a wnaiff hi ddatgan faint sy’n disgwyl am adolygiad. (WAQ50255) Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Ar gyfer pob corff iechyd, a wnaiff y Gweinidog ddatgan canran y staff nad ydynt wedi cymhathu â’r Agenda ar gyfer Newid yn (i) Medi 2005 (ii) Mehefin 2007.  (WAQ50256)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Beth oedd canlyniadau ymchwiliad y Cyd Weithgor Menter Gymdeithasol i opsiynau ar gyfer cyllido’r sector menter gymdeithasol, a pha ddefnydd o opsiynau o’r fath a wnaed cyn belled. (WAQ50258) Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa strategaethau sy’n cael eu datblygu i annog mwy o fentrau cymdeithasol i symud o fod yn dibynnu ar grantiau i fod yn gynaliadwy. (WAQ50259)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y gweinidog ddatganiad am y posibilrwydd o ddynodi Mynyddoedd Cambria yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. (WAQ50252) Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. (WAQ50253) Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth y Cynulliad ynglŷn â chyflwyno clustogfeydd 500 metr rhwng gweithfeydd glo brig a thai yng Nghymru. (WAQ50257) Dai Lloyd (South Wales West): For each health body; will the Minister detail the percentage of staff not assimilated to Agenda for Change as at (i) September 2005 (ii) June 2007. (WAQ50256)

To ask the Minister for Social Justice and Public Service Delivery

Dai Lloyd (South Wales West): What was the outcome of the Social  Enterprise Joint Working Group’s investigation into options for financing the social enterprise sector and what use of such options has been made to date. (WAQ50258) Dai Lloyd (South Wales West): What strategies are being developed to encourage more social enterprises to move from grant dependence and toward sustainability. (WAQ50259)

To ask the Minister for Sustainability and Rural Development

Kirsty Williams (Brecon and Radnorshire): Will the minister make a statement on the possibility of designating the Cambrian Mountains as an Area of Outstanding Natural Beauty. (WAQ50252) Kirsty Williams (Brecon and Radnorshire): Will the Minister make a statement on the future of the National Parks and Areas of Outstanding Natural Beauty. (WAQ50253) Nicholas Bourne (Mid and West Wales): Will the Minister make a statement on Welsh Assembly Government's policy on introducing 500 metre buffer zones between opencast mines and housing in Wales. (WAQ50257)