25/11/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/02/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Tachwedd 2013 i’w hateb ar 25 Tachwedd 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Faint o bobl yn ôl amcangyfrif y Gweinidog sy’n byw gyda HIV/Aids yng Nghymru? (WAQ65929)

Derbyniwyd ateb ar 25 Tachwedd 2013

Mark Drakeford: It is estimated that in 2012 there were 1535 Welsh residents receiving treatment for HIV/AIDS.  Data for 2013 is available up to June 2013 and shows 60 new people have been diagnosed with HIV and there have been 6 new diagnoses of Aids.  Public Health Wales (PHW) estimates that there may be up to 300 people in Wales with HIV who are undiagnosed.

Surveillance of HIV/AIDS is now undertaken by Public Health England (PHE) on behalf of England and Wales, with the collaboration of PHW.  Data is collected through the PHE's Survey of Prevalent HIV Infections Diagnosed (SOPHID), which collects annual data on diagnosed HIV-infected individuals resident in Wales and accessing HIV-related care. 

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith y ddeddfwriaeth gyrru ar gyffuriau newydd ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol? (WAQ65930)

Derbyniwyd ateb ar 27 Tachwedd 2013

Mark Drakeford: The Welsh Government broadly welcomes the proposals within the Department for Transport's consultation on UK Government Drug Driving Regulations. However,  we have made it clear that we would wish to see appropriate safeguards in place to ensure that limits proposed by the UK Government  are well above normal therapeutic levels to mitigate the risk of those drivers with pre-existing medical conditions and legitimate prescriptions being penalised.

Our views have been conveyed to the Department for Transport in the Welsh Government consultation response sent on 23 September 2013.

 

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa gyfarfodydd y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda rhanddeiliaid allanol i drafod y ddeddfwriaeth gyrru ar gyffuriau newydd? (WAQ65931)

Derbyniwyd ateb ar 27 Tachwedd 2013

Mark Drakeford: I have had no such meetings.

Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pa fesurau codi ymwybyddiaeth sydd yn eu lle er mwyn annog arferion bioddiogelwch cadarn ym maes a) coedwigaeth gyhoeddus a b) coedwigaeth breifat? (WAQ65932)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pa fesurau sydd yn eu lle er mwyn sicrhau arferion bioddiogelwch cadarn ym maes a) coedwigaeth gyhoeddus a b) coedwigaeth breifat? (WAQ65933)

 

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): I ategu WAQ65866, a wnaiff y Gweinidog osod yr asesiadau o lwyddiant masnachol y cynhyrchwyr yn llyfrgell y Cynulliad? (WAQ65934)

Derbyniwyd ateb ar 27 Tachwedd 2013

Alun Davies: No.  This information contains sensitive information which could be related back to individual companies.

 

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am yr holl waith ymchwil i blâu ac afiechydon sy’n effeithio ar goedwigaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi ar hyn o bryd ac sy’n waith ymchwil a) parhaus, b) wedi’i gwblhau yn 2013, neu c) wedi’i drefnu i ddechrau yn ystod y flwyddyn nesaf? (WAQ65935)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am yr holl waith ymchwil parhaus i goedwigaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi? (WAQ65936)

 

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r manylion diweddaraf am gynhyrchu Cynllun Gweithredu ar gyfer Rheoli Gwiwerod Llwyd yng Nghymru? (WAQ65937)

Derbyniwyd ateb ar 28 Tachwedd 2013

Alun Davies: Following the creation of Natural Resources Wales (NRW), Welsh Government is working with NRW to take forward the Grey Squirrel Management Action Plan for Wales. Responsibility for grey squirrel control on the Welsh Government woodland estate continues to rest with NRW.

 

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r manylion diweddaraf am ddatblygu dull strategol o ddelio â rhywogaethau goresgynnol, gan gynnwys Rhododendron, Clymog Japan a Jac y Neidiwr yn benodol? (WAQ65938)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa gamau gweithredu sy’n cael eu cymryd i sganio a monitro’n gyffredinol am bresenoldeb plâu a arferai fod yn absennol o goedwigoedd? (WAQ65939)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog osod pob gwerthusiad blynyddol o wobrau ‘Gwir Flas’, ar gyfer pob blwyddyn o 2008 ymlaen, yn llyfrgell y Cynulliad? (WAQ65940)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r manylion diweddaraf am yr adolygiad o’r Map Creu Coetiroedd sy’n enwi ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer creu coetiroedd? (WAQ65941)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pa ddarpariaethau a wneir ar gyfer y gwasanaethau ecosystemau coedwigaeth a choetiroedd nad ydynt ar gyfer y farchnad yng nghynlluniau Coetir Glastir? (WAQ65942)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r manylion diweddaraf am yr holl gamau gweithredu sydd wedi’u cymryd ers 2011 er mwyn gwella ansawdd dwr yn y Dalgylchoedd Dwr â Blaenoriaeth? (WAQ65943)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r holl Ddalgylchoedd Dwr â Blaenoriaeth dynodedig, yn ôl ardal, sef (a) gogledd Cymru, (b) canolbarth Cymru, (c) de-orllewin Cymru a (d) de-ddwyrain Cymru? (WAQ65944)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r holl feini prawf a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dynodi Dalgylchoedd Dwr â Blaenoriaeth? (WAQ65945)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am y manteision i dirfeddianwyr sydd â Dalgylchoedd Dwr â Blaenoriaeth ar eu tir? (WAQ65946)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):  A wnaiff y Gweinidog roi’r manylion diweddaraf am ddynodiad Dalgylchoedd Dwr â Blaenoriaeth o dan gynllun Glastir? (WAQ65947)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyflwyno map wedi’i ddiweddaru o ddosbarthiad y Dalgylchoedd Dwr â Blaenoriaeth o dan gynllun Glastir? (WAQ65948)

 

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan nifer misol y buchesi ag achosion o TB yn yr Ardal Triniaeth Ddwys ers sefydlu’r rhaglen brechu moch daear? (WAQ65949)

Derbyniwyd ateb ar 27 Tachwedd 2013

Alun Davies: The number of new herd breakdowns in the IAA is published within the IAA report.

 

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro pam mae’r adroddiad sydd ar gael ar "wahaniaethau rhwng dangosyddion TB gwartheg mewn buchesi yn yr Ardal Triniaeth Ddwys a buchesi yn yr ardaloedd cymharu" am ddwy flynedd gyntaf y rhaglen frechu (Mai 2010-Ebrill 2012) wedi golygu’r holl wybodaeth raffig ar gyfer y blynyddoedd dan sylw? (WAQ65950)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): O ystyried bod canran y buchesi ag achosion o TB wedi dechrau gostwng yn yr Ardal Triniaeth Ddwys o 2008/09 ymlaen, cyn cyflwyno’r mesurau rheoli gwartheg dwysach neu’r rhaglen frechu, a wnaiff y Gweinidog ddatgan a yw’n bosibl priodoli’n fanwl gywir unrhyw welliannau perthnasol i nifer yr achosion o TB yn yr Ardal Triniaeth Ddwys i waith y rhaglen frechu? (WAQ65951)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan faint o arian sydd wedi cael ei roi i’r Ymddiriedolaeth Afonydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud fel rhan o amcanion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr? (WAQ65952)

Derbyniwyd ateb ar 25 Tachwedd 2013

Alun Davies:   Natural Resources Wales is the competent authority for delivering the Water Framework Directive in Wales.

 

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am unrhyw (a) cyllid, (b) grantiau, (c) cefnogaeth neu (d) mathau eraill o gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i helpu gyda gweithio tuag at yr amcanion a amlinellwyd yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr? (WAQ65953)

Derbyniwyd ateb ar 25 Tachwedd 2013

Alun Davies:   Natural Resources Wales is the competent authority for delivering the Water Framework Directive in Wales.