Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Mawrth 2012 i’w hateb ar 26 Mawrth 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Aled Roberts (Gogledd Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i weithredu cynllun tebyg i'r Rhaglen Ysgol Haf a lansiwyd yn Lloegr yn ddiweddar i helpu plant difreintiedig i bontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. (WAQ59970)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i fynd i’r afael â’r gostyngiad o un flwyddyn i’r llall yn y nifer sy’n cofrestru ar gyfer blwyddyn gyntaf cyrsiau HCA yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diweddar a’r ffaith mai dim ond 13 y cant a gwblhaodd gwrs a oedd naill ai’n eu galluogi i ddysgu’n ddwyieithog neu a arweiniodd at dystysgrif addysg ddwyieithog ffurfiol. (WAQ59971)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion sydd â ffobia am fynd i’r ysgol (Didaskaleinophobia),
a’u teuluoedd. (WAQ59972)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r cynnydd mewn bwlio plant Awtistig. (WAQ59973)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu gwario’r £8.9m o arian canlyniadol Barnett am y gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012. (WAQ59968)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad llawn o sut y caiff y £216m a geir fel arian canlyniadol Barnett ei wario gan Lywodraeth Cymru fesul portffolio adrannol. (WAQ59969)
Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn atal cyn garcharorion rhag mynd yn ddigartref. (WAQ59974)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn atal pobl sydd ag anableddau dysgu rhag mynd yn ddigartref. (WAQ59975)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn atal pobl sydd â salwch meddwl rhag mynd yn ddigartref. (WAQ59976)