26/05/2011 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cunilliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Mai 2011 i’w hateb ar 26 Mai 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter a Thechnoleg

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion faint o arian sydd wedi cael ei roi i fusnesau yng Nghymru drwy Raglen Adnewyddu’r Economi ers dechrau’r flwyddyn. (WAQ57378)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i adolygu Rhaglen Adnewyddu’r Economi. (WAQ57379)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gyflwyno parthau menter yng Nghymru. (WAQ57380)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A all y Gweinidog gadarnhau dyddiad tebygol cyhoeddi strategaeth gweithgynhyrchu Llywodraeth Cymru. (WAQ57381)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw ohebiaeth gan Brif Weinidog y DU yn dilyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch toriadau i’w gyllideb ac, os felly, a wnaiff roi’r manylion. (WAQ57382)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl cyhoeddi cynllun trafnidiaeth cenedlaethol cynhwysfawr ac a wnaiff amlinellu bwriad Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ymestyn cyswllt rheilffordd Cwm Ebwy i Gasnewydd. (WAQ57377)