Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Ionawr 2012 i’w hateb ar 27 Ionawr 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
David Rees (Aberafan): Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i atal chwythwyr chwiban rhag cael eu herlid gan eu cyflogwyr pan fyddant yn gweithredu er budd y cyhoedd ac yn tynnu sylw at bryderon ynghylch sut caiff cyllid gan Lywodraeth Cymru ei ddefnyddio. (WAQ59610)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Russell George (Sir Drefaldwyn): A all y Gweinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru wedi cyfrifo'r effaith a gaiff yr allyriadau CO2 o Orsaf Bwer Sir Benfro ar ymrwymiad y Llywodraeth i leihau allyriadau nwyon ty gwydr o Gymru 40 y cant erbyn 2020. (WAQ59605)
Russell George (Sir Drefaldwyn): A all y Gweinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn dal yn ymrwymedig i'r polisi i leihau allyriadau nwyon ty gwydr yng Nghymru 40 y cant erbyn 2020. (WAQ59606)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa gwmni neu wasanaeth Llywodraeth a ddefnyddir i gynnal fetio at ddibenion diogelwch ar ffurf (a) gwiriadau gwrthderfysgaeth, (b) gwiriadau diogelwch ac (c) fetio uwch ar gyfer swyddogion a chynghorwyr arbennig yn Llywodraeth Cymru. (WAQ59607)
Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa asedau sydd werth £1,000 neu fwy y mae Llywodraeth Cymru wedi’u prynu er mis Mai 2011. (WAQ59608)
Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa brosiectau (a) adeiladu a (b) ailwampio y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cynnal er mis Mai 2011, a beth oedd cost pob prosiect. (WAQ59609)