27/01/2015 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 21/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/03/2015

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Ionawr 2015 i'w hateb ar 27 Ionawr 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny.  Cyhoeddir yr atebion unwaith iddynt gael eu derbyn yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn y Gymraeg.

 

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid morol wrth ddatblygu'r Cynllun Morol Cenedlaethol cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod haf 2015? (WAQ68263)

Derbyniwyd ateb ar 27 Ionawr 2015

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol (Carl Sargeant): Welsh Government are committed to engaging widely throughout the marine planning process.

 

Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o'r ysgolion y dyrannwyd arian iddynt o dan Her Ysgolion Cymru y mae Estyn yn eu hystyried i fod yn ysgolion y mae angen gwelliant sylweddol arnynt? (WAQ68261)

Derbyniwyd ateb ar 28 Ionawr 2015

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau (Huw Lewis): There is one school in the programme that is classed by Estyn as in need of significant improvement and that is Abertillery Comprehensive School.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o ysgolion a ddyrannwyd arian o dan Her Ysgolion Cymru y mae Estyn yn eu hystyried i fod yn ysgolion o dan fesurau arbennig ar hyn o bryd? (WAQ68262)

Derbyniwyd ateb ar 28 Ionawr 2015

Huw Lewis: There are five schools in the programme that are classed by Estyn to be in special measures and they are Heolddu Comprehensive School, Llantarnum School, Rhosnesni High School, St Illtyd's Catholic High School, and Ysgol Clywedog.

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Faint o bresgripsiynau ar gyfer y cyffur Risperidon/ Risperdal a roddwyd yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf? (WAQ68256)

Derbyniwyd ateb ar 28 Ionawr 2015

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): The table below details the number of prescription items issued by GPs for risperidone in each of the last five years.

Year

 

20092010201120122013
Total77,39777,67380,95088,97995,250

 

Please note that the source of this data is management information. It has not been published and has not been through the checks and validations usual for official statistics products.

 

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa ganllawiau sy'n bodoli ar gyfer ymarferwyr i gyfyngu ar roi presgripsiwn am Risperidone/Risperdal a roddir i gleifion o dan 18 oed? (WAQ68257)

Derbyniwyd ateb ar 28 Ionawr 2015

Mark Drakeford: Practitioners follow prescribing advice published in the British National Formulary for Children and the NICE guidance on psychosis and schizophrenia in children and young people. This guidance advises on the use of oral antipsychotics such as risperidone.

 

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa ganllawiau sy'n bodoli ar gyfer ymarferwyr o ran rhoi presgripsiwn am Risperidone/Risperdal i blant o dan bump oed? (WAQ68258)

Derbyniwyd ateb ar 28 Ionawr 2015

Mark Drakeford: The British National Formulary for Children provides advice on the prescribing of risperidone in those over five years of age. No national guidance has been issued on the use of risperidone in those under five.

 

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa adroddiadau monitro a gaiff eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru sy'n darparu gwybodaeth am nifer y presgripsiynau am Risperidone a roddir i gleifion o dan 18 oed? (WAQ68259)

Derbyniwyd ateb ar 28 Ionawr 2015

Mark Drakeford: Routinely collected prescribing data does not link a prescription to the patient's age. This information is therefore not collected or monitored.

 

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa fecanweithiau adrodd sydd ar waith i sicrhau y dilynir y canllawiau ar wefan NHS Choices, sy'n nodi y caiff presgripsiynwyr roi presgripsiwn am Risperidone/Risperdal gyda gofal arbennig yn unig neu na chant roi presgripsiwn o gwbl i blentyn o dan bump oed? (WAQ68260)

Derbyniwyd ateb ar 28 Ionawr 2015

Mark Drakeford:  Prescribers are expected to adhere to the relevant advice in  the British National Formulary for Children and advice issued by the National Institute for Health and Care Excellence (NICE).