Atebion a roddwyd i Aelodau ar 27 Hydref 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r meini prawf y mae’n eu defnyddio i ystyried pa rannau o Gymru ddylai fod yn Ardaloedd Adfywio Strategol? (WAQ52629)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Sawl Ardal Adfywio Strategol y mae’r Gweinidog yn rhagweld eu sefydlu erbyn diwedd eleni ac erbyn diwedd y flwyddyn nesaf? (WAQ52630)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa broses ddylai Awdurdod Lleol ei dilyn er mwyn iddo gael ei ystyried fel Ardal Adfywio Strategol? (WAQ52631)
Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio (Leighton Andrews): Gwnaed datganiad gennyf yn y Cynulliad ar Adfywio Strategol ar 14eg Hydref pan amlinellais y meini prawf ar gyfer pennu Ardaloedd Adfywio Strategol. Fel y dywedais bryd hynny, caiff eu nifer, eu maint a’r gyllideb ar eu cyfer eu pennu ar sail achosion unigol. Os oes gan awdurdodau lleol gynigion ar gyfer Ardaloedd Adfywio Strategol, mae croeso iddynt eu hanfon ataf.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Mike German (Dwyrain De Cymru): Faint o gyfrifon byw, a gedwir gan raddedigion addysg uwch yng Nghymru sydd mewn dyled i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ac na cheir dim ad-daliadau ar eu cyfer ar hyn o bryd, wedi’u dadansoddi yn ôl y rheswm dros ddiffyg ad-daliadau? (WAQ52641)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2007-08, roedd cyfanswm o 166,300 o gyfrifon benthyciad agored gan fenthycwyr yng Nghymru. O’r rheini roedd 81,200 o’r benthycwyr benthyciadau sy’n ddibynnol ar incwm a bron 22,700 (o Dabl 2ii) o fenthycwyr benthyciad arddull morgais wedi mynd y tu hwnt i’r Dyddiad Ad-dalu Statudol, h.y. disgwyliwyd iddynt ad-dalu benthyciadau os oedd eu hincwm uwchlaw’r trothwy perthnasol.
Roedd Datganiad Ystadegol Cyntaf Benthyciadau Myfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru, Blwyddyn Ariannol 2007-08 a gyhoeddwyd gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC) ym mis Mehefin 2008, yn cynnwys y wybodaeth dros dro ganlynol. http://www.slc.co.uk/pdf/slcsfr032008.pdf
Mae’r tabl canlynol yn rhoi manylion y benthycwyr hynny nad ydynt yn ad-dalu eto neu sydd wedi mynd y tu hwnt i’w dyddiad ad-dalu statudol ar gyfer benthycwyr benthyciadau sy’n ddibynnol ar incwm.
Benthycwyr benthyciadau sy’n ddibynnol ar incwm [1] Mawrth 2008
Categorïau nad ydynt yn ad-dalu (cofnodion yn cael eu cyfateb a’r wybodaeth yn cael ei chasglu) |
4,500 |
Islaw’r trothwy enillion |
37,700 |
Byw dramor - symiau yn ddyledus |
Llai na 100 |
Isgyfanswm ddim yn ad-dalu eto |
42,200 (swm y ffigurau heb eu talgrynnu o’r tri chategori uchod) |
SLC yn aros am ffurflen HMRC y flwyddyn gyntaf—statws ad-dalu heb ei bennu eto [2] |
15,900 |
Uwchlaw’r trothwy enillion - ad-dalu |
23,100 |
Cyfanswm tu hwnt i’r dyddiad Ad-dalu Statudol |
81,200 |
[1] Heb gynnwys benthycwyr nad oes gofyn iddynt ad-dalu eto oherwydd eu bod mewn addysg uwch o hyd neu eu bod wedi gadael yn ddiweddar a’r rhai â chyfrifon yn cael eu cau. Wrth gynnwys y benthycwyr hyn, cyfanswm nifer y benthycwyr gyda chyfrifon benthyciad ICR yw 145,200 (o Dabl 2iii).
[2] Y rhai nad yw SLC wedi cael ffurflen dreth y flwyddyn gyntaf ar eu cyfer eto felly ni ellir pennu eu statws ad-dalu. Bydd hyn yn cynnwys rhai benthycwyr sy’n ad-dalu a chaiff SLC fanylion eu had-daliadau ar ddiwedd eu blwyddyn dreth gyntaf o ad-dalu.
Mae’r mwyafrif helaeth o fenthycwyr sy’n ddibynnol ar incwm nad ydynt yn ad-dalu (89% (cyfrifwyd ar y ffigurau heb eu talgrynnu ar gyfer C-d fel % o C c+d+e) o’r rhai nad ydynt yn ad-dalu) yn ennill llai na’r trothwy £15,000 ac felly nid oes gofyn iddynt wneud unrhyw ad-daliadau. Nid yw ad-daliadau ar gyfer 11% pellach wedi dechrau eto gan fod eu manylion wrthi’n cael eu cyfateb â chofnodion cyflogwr neu wybodaeth arall a gaiff ei chasglu.
Mae’r tabl canlynol yn rhoi manylion y benthycwyr hynny nad ydynt yn ad-dalu eto neu sydd wedi mynd y tu hwnt i’w dyddiad ad-dalu statudol ar gyfer benthycwyr benthyciadau arddull morgais.
Benthycwyr benthyciadau arddull morgais Mawrth 2008
Llai na 2 fis o ad-daliadau’n ddyledus [1] |
100 |
Dau fis neu fwy o ad-daliadau’n ddyledus [1] |
1,500 |
Yn hwyr gyda dim amserlen ad-dalu â llai na £100 yn ddyledus [1] |
100 |
Yn hwyr gyda dim amserlen ad-dalu â £100 neu fwy yn ddyledus [1] |
3,000 |
Gohirio ad-daliadau |
10,000 |
Gohirio ad-daliadau gydag ôl-ddyledion |
400 |
Isgyfanswm ddim yn ad-dalu eto [2] |
15,100 (cyfrifwyd ar ffigurau heb eu talgrynnu) |
Ar y blaen gydag ad-daliadau |
2,300 |
Ad-daliadau’n gyfredol |
5,600 |
[1] Gallai benthycwyr a ddosbarthwyd ag ôl-ddyledion fod wedi gwneud ad-daliadau na ddaeth â’u cyfrifon yn gyfredol.
[2] Gellir cyfrif benthycwyr unigol mewn mwy nag un categori os oes ganddynt gyfrifon benthyciad mewn mwy nag un statws.