Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Hydref i’w hateb ar 27 Hydref 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Mike German (Dwyrain De Cymru): Faint o gyfrifon byw, a gedwir gan raddedigion addysg uwch yng Nghymru sydd mewn dyled i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ac na cheir dim ad-daliadau ar eu cyfer ar hyn o bryd, wedi’u dadansoddi yn ôl y rheswm dros ddiffyg ad-daliadau. (WAQ52641)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ystyried ar frys darparu cyllid i warchod Fferm Cwrt ym Mhen-bre. (WAQ52638)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gydag unigolion a mudiadau sydd â diddordeb ynghylch gwarchod Fferm Cwrt ym Mhen-bre. (WAQ52639)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa geisiadau am gyllid y mae’r Gweinidog wedi’u cael i warchod Fferm Cwrt ym Mhen-bre. (WAQ52640)