28/02/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Chwefror 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Chwefror 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gyfarfodydd neu drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Tesco ccc ynghylch colli swyddi yn eu swyddfa yn Heol Maes-y-Coed, Caerdydd? (WAQ51219)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Ni chynhaliwyd unrhyw gyfarfodydd hyd yma, fodd bynnag mae un o reolwr perthynas Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu cyfarfod â Norman Reaney, pennaeth gweithrediadau Tesco, Heol Maes-y-Coed, i drafod strategaeth y cwmni, cyfleoedd i ehangu a bygythiadau i ganolfan Caerdydd. Bydd y trafodaethau yn canolbwyntio hefyd ar faterion gweithredol lleol a chyfleoedd am gymorth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ffioedd atodol prifysgolion yng Nghymru ac a yw’n bwriadu aros yn ymrwymedig i’r polisi ar ôl codi’r cap ar ffioedd amrywiadwy ar gyfer prifysgolion yn Lloegr? (WAQ51096)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro a roddwyd ar 7 Chwefror 2008.

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae cytundeb 'Cymru’n Un’ yn ei gwneud yn glir cyn belled ag y mae’r maes polisi hwn yn y cwestiwn y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud beth bynnag sy’n bosibl i liniaru’r effeithiau ar fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru os bydd Llywodraeth San Steffan yn codi’r cap ar ffioedd yn 2009.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Beth yw agwedd y Gweinidog at gyllido preifat yn ei phortffolio? (WAQ51383)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A fyddai’r Gweinidog yn rhoi manylion am ei pholisïau ar ddefnyddio cronfeydd preifat ar reoli gwastraff? (WAQ51384)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Beth yw agwedd y Gweinidog at fentrau cyllid preifat neu bartneriaethau cyhoeddus-preifat? (WAQ51385)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Rwy’n ymateb i’r cwestiynau a restrir gyda’i gilydd gan eu bod yn cyfeirio at faterion tebyg.

Cyfeiriaf at yr ymateb a roddwyd gan y Prif Weinidog ar ran Aelodau’r Cabinet i Nicholas Bourne (Canol a Gorllewin Cymru) 30 Ionawr 2008.

O ran rheoli gwastraff, rwy’n ymrwymedig i sicrhau gwerth am arian wrth gyflawni cyfleusterau rheoli gwastraff. Caiff prosiectau i reoli gwastraff trefol eu rhoi ar dendr yn unol â Chyfarwyddeb caffael cyhoeddus yr UE.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Pa swyddogaeth sydd gan gyrff cyhoeddus anadrannol ymgynghorol yn Adran y Gweinidog yng nghyswllt lles anifeiliaid yng Nghymru?(WAQ51297)

Ateb terfynol yn dilyn yr ateb dros dro.

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Er nad yw yn Gorff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad (CNLC), mae Gweithgor y Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid yn cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ei swyddogaeth yw trafod, cynghori a phennu’r blaenoriaethau o ran iechyd a lles anifeiliaid, yn ogystal â chynnig sylwadau ar gynnydd y Cynllun Gweithredu Iechyd a Lles Anifeiliaid a’i adolygu.

Hyd yma, mae’r Gweithgor wedi ystyried ystod eang o faterion, gan gynnwys Parasitoleg, TB mewn gwartheg, y Tafod Glas a Chynllunio Wrth Gefn ar gyfer Clefydau Anifeiliaid a Chlefydau Endemig mewn Da Byw Fferm.