Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Mai 2009 i’w hateb ar 28 Mai 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r dangosyddion y mae’r Gweinidog yn eu defnyddio i asesu pa mor effeithiol y caiff ei adran ei rhedeg ac a allai amlinellu patrymau diweddaraf pob un o’r dangosyddion hynny. (WAQ54216)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r dangosyddion economaidd y mae’r Gweinidog yn eu defnyddio i asesu pa mor effeithiol yw polisïau economaidd Llywodraeth Cynulliad Cymru ac a allai amlinellu patrymau diweddaraf pob un o’r dangosyddion hynny. (WAQ54217)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r dangosyddion economaidd y mae’r Gweinidog yn eu defnyddio i asesu pa mor effeithiol yw polisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ac a allai amlinellu patrymau diweddaraf pob un o’r dangosyddion hynny. (WAQ54218)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn yr ateb i WAQ51631 beth oedd costau terfynol teithio dwyffordd, y costau llety a chynhaliaeth a’r lwfansau a’r treuliau eraill dros holl gyfnod secondiad Rheolwr Ymwybyddiaeth Gwastraff Cymru i Awstralia. (WAQ54212)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn yr ateb i WAQ51631 beth oedd costau terfynol cyflog Rheolwr Ymwybyddiaeth Gwastraff Cymru pan oedd yn Awstralia a chost wirioneddol darparu staff i lenwi ei swydd yn ystod yr absenoldeb. (WAQ54213)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn yr ateb i WAQ51631 beth oedd canlyniadau’r secondiad ac a oes unrhyw gynlluniau i ailadrodd y broses. (WAQ54214)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad manwl, fesul mis, o nifer y digwyddiadau pan ddefnyddiwyd un o gerbydau’r heddlu i drosglwyddo claf i ysbyty yng Nghymru. (WAQ54219)
Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad manwl, fesul mis, o nifer y digwyddiadau pan ddefnyddiwyd un o gerbydau’r heddlu i drosglwyddo claf i ysbyty yn Nhor-faen. (WAQ54220)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gofynion a geir i awdurdodau lleol Cymru gyhoeddi manylion y cyflogau a’r pecynnau tâl a gynigir i’w prif weithredwyr a’u huwch reolwyr. (WAQ54215)