Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 28 Mai 2010
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Gofyn
i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Faint o ganolfannau Gyrfa Cymru sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd. (WAQ56024)
Rhoddwyd
ateb ar 09 Mehefin 2010
Mae 45 o ganolfannau Gyrfa Cymru ar y Stryd Fawr sy'n darparu gwasanaeth lleoli a chyfeirio i unigolion 16 a 17 oed yn y farchnad lafur a gwasanaethau cyfarwyddyd i oedolion. Mae'r chwe chwmni Gyrfa Cymru hefyd yn darparu gwasanaethau drwy amrywiaeth o allfeydd cymunedol. Darperir gwasanaethau ar y safle hefyd ym mhob un o ysgolion uwchradd a Cholegau Addysg Bellach Cymru.
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Sut mae'r gwasanaethau gyrfa a ddarperir yng Nghymru yn cymharu â'r rheini yn rhannau eraill y DU. (WAQ56025)
Rhoddwyd
ateb ar 09 Mehefin 2010
Gyrfa Cymru: Adolygiad o Safbwynt Rhyngwladol (Mai 2009), a awdurdodwyd gan yr Athro A G Watts, yw'r asesiad diweddaraf i gael ei gyhoeddi ar sut y mae gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru yn cymharu â darpariaeth mewn rhannau eraill o'r DU a thu hwnt.
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Pa gamau sydd wedi cael eu cymryd ers adroddiad Gyrfa Cymru: Adolygiad o Safbwynt Rhyngwladol y llynedd. (WAQ56026)
Rhoddwyd
ateb ar 09 Mehefin 2010
Dechreuodd adolygiad allanol manylach arall o'r cydberthnasau rhwng Gyrfa Cymru a darparwyr gwasanaethau cyfagos ym mis Rhagfyr 2009 ac mae ar fin cael ei gwblhau. Caiff yr adroddiad dilynol ei ystyried ochr yn ochr â dadansoddiad mewnol o'r opsiynau sydd ar gael i uno Gyrfa Cymru; a byddaf yn cyhoeddi'r canlyniad maes o law.
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth yw cost Cymdeithas Gyrfa Cymru, fesul blwyddyn er 2001. (WAQ56027)
Rhoddwyd
ateb ar 09 Mehefin 2010
Nid yw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani ar gael yn ganolog. Mae Cymdeithas Gyrfa Cymru (CWA) yn is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr chwe chwmni Gyrfa Cymru, ac mae pob un ohonynt yn darparu gwasanaethau gyrfaoedd statudol i bob oedran o dan gontract gyda Gweinidogion Cymru. Mae gan CWA rôl o ran hwyluso cydweithredu rhwng y cwmnïau, datblygu a chynnal gwasanaeth Gyrfa Cymru Ar-lein a hyrwyddo'r gwaith o sefydlu safonau cenedlaethol.
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth yw lefelau staffio Cymdeithas Gyrfa Cymru ar hyn o bryd, fesul canolfan. (WAQ56028)
Rhoddwyd
ateb ar 09 Mehefin 2010
Nid yw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani ar gael yn ganolog. Mae Cymdeithas Gyrfa Cymru (CWA) yn is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr chwe chwmni Gyrfa Cymru, ac mae pob un ohonynt yn darparu gwasanaethau gyrfaoedd statudol i bob oedran o dan gontract gyda Gweinidogion Cymru. Roedd y ffigurau staffio diweddaraf (Cyfwerth ag Amser Llawn) a oedd ar gael ar gyfer pob un o gwmnïau Gyrfa Cymru ar 30 Tachwedd 2009 fel a ganlyn:
Gyrfa Cymru Caerdydd a'r Fro 144
Gyrfa Cymru Gwent 148
Gyrfa Cymru Morgannwg Ganol a Phowys 203
Gyrfa Cymru Gorllewin Cymru 245
Gyrfa Cymru Gogledd-ddwyrain Cymru 109
Gyrfa Cymru Gogledd-orllewin Cymru 140
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Faint o ganolfannau Gyrfa Cymru sydd wedi bod ar waith, fesul blwyddyn, ers ei greu yn 2001. (WAQ56029)
Rhoddwyd
ateb ar 09 Mehefin 2010
Nid yw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani ar gael yn ganolog.
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn dilyn ei ateb i WAQ56002, pam mai'r Prif Weinidog fydd yn penderfynu ar nifer o'r cynigion ad-drefnu ysgolion, ac, os mai gwrthdaro posibl rhwng buddiannau yw'r rheswm, sawl gwaith mae hyn wedi digwydd o'r blaen. (WAQ56030) W
Rhoddwyd
ateb ar 04 Mehefin 2010
Rwyf wedi datgan achos canfyddedig posibl o wrthdaro buddiannau o ran y cynigion i ad-drefnu Ysgol Gynradd Treganna. Pan fydd gwrthdaro buddiannau yn codi, mae'n angenrheidiol i un o Weinidogion eraill Cymru wneud penderfyniadau, sef y Prif Weinidog yn yr achos hwn.
Nid yw gwrthdaro o'r fath yn codi'n aml, ond mae'r Prif Weinidog wedi penderfynu ar un cynnig eleni ar ran Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â chau Ysgol Babanod Penrhiwfer sy'n rhan o ardal yr awdurdod lleol sy'n cwmpasu fy etholaeth.