Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 21 Medi 2011 i’w hateb ar 28 Medi 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o gyfanswm nifer y busnesau a gafodd gynnig cymorth dan y Rhaglen Adnewyddu’r Economi ym mhob mis er Mawrth 2011. (WAQ58049)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithrediad Llywodraeth Cymru o reoliad EU Norm EN 1825, gan gadarnhau a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o’r rheoliad ac yn rhoi’r gorau i gofrestru perchnogion tanciau septig am y tro, fel y gwnaed yn Lloegr. (WAQ58053)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Peter Black (Gorllewin De Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cyhoeddi arweiniad i Gyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad am y dulliau cyfrifo, y fformat a lefel y manylder y dylai fod ar gael i’r cyhoedd yn eu cyllideb. (WAQ58052)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Peter Black (Gorllewin De Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cyhoeddi arweiniad i Fyrddau Iechyd Lleol am y dulliau cyfrifo, y fformat a lefel y manylder y dylai fod ar gael i’r cyhoedd yn eu cyllideb. (WAQ58050)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr arweiniad a gyhoeddwyd gan ei hadran i Fyrddau Iechyd Lleol ynghylch rheoli cyflyrau poen cronig, ac ystyried y costau economaidd, personol a meddygol sy’n gysylltiedig â hyn. (WAQ58048)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Peter Black (Gorllewin De Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cyhoeddi arweiniad i awdurdodau lleol am y dulliau cyfrifo, y fformat a lefel y manylder y dylai fod ar gael i’r cyhoedd yn eu cyllideb. (WAQ58051)