28/11/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/02/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 21 Tachwedd 2013 i’w hateb ar 28 Tachwedd 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa argymhelliad, canfyddiad neu ymateb i’r Gynhadledd Fawr a arweiniodd at benderfyniad y Prif Weinidog i ddechrau ymgyrch i annog pobl i wneud pum peth yn Gymraeg bob dydd yn ei ddatganiad ar Dachwedd 12? (WAQ65986)W

Derbyniwyd ateb ar 2 Rhagfyr 2013

First Minister: During Y Gynhadledd Fawr we heard that factors such as confidence and habit influenced people’s use of language, and that individuals too often lost the confidence to use Welsh after leaving school. The aim of "5 y Dydd" (5 a Day) is therefore to bridge that gap and encourage people to use their Welsh every day – either socially or in their professional lives.

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o gyfarfodydd gyda’i swyddogion y mae’r Prif Weinidog wedi eu cynnal er mwyn trafod yr adroddiad “Iaith fyw: dweud eich dweud, Canlyniadau’r ymarferiadau ymgynghori” gan Cwmni Iaith am ganfyddiadau’r Gynhadledd Fawr? (WAQ65987)W

Derbyniwyd ateb ar 27 Tachwedd 2013

Prif Weinidog Cymru: Rwyf wedi cyfarfod â'm swyddogion deirgwaith er mwyn trafod canfyddiadau'r Gynhadledd Fawr, gan gynnwys adroddiad Cwmni Iaith ar y Gynhadledd Fawr.

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei farn am bob un o’r argymhellion yn yr adroddiad “Iaith fyw: dweud eich dweud, Canlyniadau’r ymarferiadau ymgynghori” gan Cwmni Iaith am ganfyddiadau’r Gynhadledd Fawr? (WAQ65988)W

Derbyniwyd ateb ar 27 Tachwedd 2013

Prif Weinidog Cymru: Traddodais ddatganiad llafar ar y camau nesaf yn dilyn y Gynhadledd Fawr ar 12 Tachwedd, a byddaf yn gwneud datganiad pellach yn ystod y gwanwyn.

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr adroddiad “Iaith fyw: dweud eich dweud, Canlyniadau’r ymarferiadau ymgynghori” gan Cwmni Iaith am ganfyddiadau’r Gynhadledd Fawr? (WAQ65989)W

Derbyniwyd ateb ar 27 Tachwedd 2013

Prif Weinidog Cymru: Traddodais ddatganiad llafar ar y camau nesaf yn dilyn y Gynhadledd Fawr ar 12 Tachwedd, a byddaf yn gwneud datganiad pellach yn ystod y gwanwyn.

 

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog restru aelodau grwp cynghori'r gweinidog ar ofal heb ei drefnu a arweinir gan y Farwnes Finlay o Landaf? (WAQ65985)

Derbyniwyd ateb ar 27 Tachwedd 2013

Mark Drakeford: Baroness Finlay has undertaken engagement with a wide range of stakeholders and is currently consolidating the findings so far.  She is now a member of the NHS led Improving Unscheduled Care Programme Steering Board, and will use the membership of this group to advise me of the next steps for the National Conversation based on the themes identified through her engagement. This will ensure the work is co-ordinated with other Unscheduled Care work being taken forward.