29/03/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Mawrth 2012 i’w hateb ar 29 Mawrth 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Sawl gwaith y mae Gweinidogion Cymru wedi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer ymweliadau swyddogol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. (WAQ60011)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y bydd Byrddau Ardaloedd Menter yn sicrhau atebolrwydd lleol. (WAQ59993)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth yw'r gymhareb ar gyfer aelodau o’r sector cyhoeddus ac aelodau o’r sector preifat ar fyrddau Ardaloedd Menter. (WAQ59994)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y cafodd Cadeiryddion Byrddau Ardaloedd Menter eu dewis a sut y maent yn atebol i lywodraeth leol a phartneriaethau lleol. (WAQ59995)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth yw cyfnod Cadeiryddion Byrddau Ardaloedd Menter yn eu swydd. (WAQ59996)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa gyngor oedd Trysorlys y DU wedi’i roi i awdurdodau lleol am y Lwfansau Cyfalaf Uwch mewn perthynas ag Ardaloedd Menter yng Nghymru a phryd y rhoddwyd y cyngor. (WAQ59997)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa ganllawiau ysgrifenedig sydd wedi cael eu rhoi i awdurdodau lleol ar bob cam o'r gwaith o ddatblygu eu cynigion Ardal Fenter. (WAQ59998)

David Melding (Canol De Cymru): Beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i gynyddu’r cyfran o fusnesau Cymru sy’n gwneud llawer o ddefnydd o’r we. (WAQ60000)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae rhaglen ariannu newydd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) yr UE yn gallu cefnogi cyflawni ‘Cynnal Cymru Fyw’. (WAQ60001)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau i) statws cyfredol contract monitro Glastir, ii) cyfanswm y tendr, a iii) nodi pa fesurau a/neu ganlyniadau sydd gael eu monitro. (WAQ60003)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o’r costau sy’n gysylltiedig â sefydlu cronfa ddata yng Nghymru ar gyfer adnabod defaid yn electronig. (WAQ60010)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Wrth ddatblygu ei Strategaeth ar gyfer Dileu TB mewn Gwartheg pa asesiad oedd Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r costau sydd ynghlwm wrth unrhyw sialens gyfreithiol i’w pholisïau. (WAQ60004)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau mai brechu moch daear oedd y dewis a oedd yn cael ei ffafrio, ar wahân, gan Brif Swyddog Milfeddygol Cymru a Phrif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau’r achosion o TB buchol mewn bywyd gwyllt lle mewn TB ar ei waethaf. (WAQ60005)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod y Panel Adolygu Arbenigol ar TB mewn Gwartheg yn cymeradwyo Strategaeth Dileu TB newydd Llywodraeth Cymru yn llawn. (WAQ60006)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn datganiad y Gweinidog ar 20 Mawrth, a wnaiff roi manylion yr amodau y byddai’n rhaid eu bodloni er mwyn cyfiawnhau defnyddio difa yn Rhaglen Dileu TB Llywodraeth Cymru. (WAQ60007)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i gyflwyno prisiad tiwbaidd ar gyfer gwartheg sydd i’w difa oherwydd TB mewn gwartheg yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. (WAQ60008)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Sawl gwaith, ac ar ba ddyddiadau, y mae’r Gweinidog a/neu ei swyddogion wedi cwrdd â chynrychiolwyr o’r Ymddiriedolaeth Moch Daear yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. (WAQ60009)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa gyngor cyfreithiol mewnol ac allanol a gafodd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’i Strategaeth Dileu TB mewn Gwartheg a gyhoeddwyd ar 20 Mawrth 2012. (WAQ60012)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cyfanswm y costau sy’n gysylltiedig â’r ceir a ddarparwyd i Aelodau Cabinet Llywodraeth Cymru ym mhob un o’r tair blynedd diwethaf, gan gynnwys costau prynu a chynnal a chadw. (WAQ60002)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Nawr bod tenantiaid Sir y Fflint wedi pleidleisio yn erbyn trosglwyddo stoc, pa ddewisiadau eraill sydd ar gael i'r Sir i gyllido ac i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru. (WAQ59999)