Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Tachwedd 2012 i’w hateb ar 29 Tachwedd 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o becynnau cais ar gyfer Glastir Sylfaenol 2013 sydd wedi cael eu hanfon hyd yma. (WAQ61674)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer Glastir Sylfaenol 2014 a gafodd eu cofnodi ar Ffurflen Cais Sengl 2012. (WAQ61675)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o ffermwyr Cymru fydd yn cael y taliadau terfynol ar gyfer a) Tir Mynydd, b) Tir Gofal ac c) Tir Cynnal ym mis Rhagfyr 2013. (WAQ61676)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nifer y tramgwyddau yn y cynlluniau amaeth-amgylcheddol a weinyddir gan Lywodraeth Cymru ym mhob un o’r 3 blynedd diwethaf, gan nodi a) nifer y daliadau yr effeithiwyd arnynt, b) cyfanswm gwerth y cosbau a roddwyd, ac c) enw’r cynllun o dan sylw. (WAQ61677)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nifer y cytundebau Glastir Uwch y bwriedir iddynt ddechrau ym mis Ionawr 2013. (WAQ61678)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi Treulio Anaerobig yn y system gynllunio. (WAQ61673)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i gyfyngu ar yr arfer o ryddhau llusernau awyr yng Nghymru yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. (WAQ61679)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wario ar hysbysebu swyddi gwag mewn papurau sy'n eiddo i’r Trinity Mirror Group ym mhob un o'r 3 blynedd ariannol diwethaf. (WAQ61680)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu faint o adeiladau Llywodraeth Cymru sy’n cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 ac â Deddf Cydraddoldeb 2010 o ran gofynion mynediad i bobl anabl. (WAQ61683)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa gyfarwyddebau a/neu ganllawiau sydd wedi cael eu cyhoeddi i Gyrff Cyhoeddus yng Nghymru ynghylch lleoli eu safleoedd o fewn yr ystad sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. (WAQ61684)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa fesurau sydd ar waith i gynyddu'r nifer sy’n manteisio ar daliadau uniongyrchol ar gyfer gofal cymdeithasol. (WAQ61685)
William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i weithredu cyllidebau personol fel rhan o'r broses taliadau uniongyrchol. (WAQ61686)
William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa fesurau sydd ar waith i wella’r gwasanaethau eirioli a ddarperir i unigolion sy’n cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol. (WAQ61687)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Ym mhob un o’r tair blynedd ariannol diwethaf, faint o rent y mae Llywodraeth Cymru wedi’i dalu i Gomisiwn y Cynulliad am ddefnyddio (a) swyddfeydd; a (b) cyfleusterau, yn Nhy Hywel. (WAQ61681)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Faint y mae Llywodraeth Cymru yn ei dalu i ddefnyddio safleoedd a chyfleusterau Comisiwn y Cynulliad yn ystad Ty Hywel. (WAQ61682)