Atebion a roddwyd i Aelodau ar 31 Mawrth 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth y Cynulliad, os o gwbl, ar gyfer cynlluniau lliniaru tagfeydd traffig ar gyfer tref Rhaeadr Gwy ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? (WAQ53837)
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Mae hyn yng Ngham 2 o’r Flaenraglen Cefnffyrdd. Rydym yn bwriadu penodi ymgynghorwyr yn ddiweddarach eleni i edrych ar opsiynau.
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu ffordd osgoi’r Drenewydd yn Sir Drefaldwyn? (WAQ53848)
Y Dirprwy Brif Weinidog: Rydym yn edrych ar opsiynau ac mae Ymgynghoriad Cyhoeddus wedi’i raglennu ar gyfer mis Medi 2009.
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu ffordd osgoi Llandysilio yn Sir Drefaldwyn? (WAQ53849)
Y Dirprwy Brif Weinidog: Disgwylir i waith adeiladu ar y prosiect ddechrau erbyn diwedd y flwyddyn.
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad gwella ffordd Treberfedd a Thal-y-bont? (WAQ53850)
Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae’r cynllun wedi’i gynnwys yng Ngham 3 y TRFP. Mae materion ariannu trawsffiniol i’w datrys o hyd ac rwyf wedi siarad â’r Arglwydd Adonis, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am wella ffordd Glan Dyfi yn Sir Drefaldwyn? (WAQ53851)
Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae cynllun manwl terfynol y prosiect yn cael ei gwblhau ac mae trafodaethau gyda Network Rail ar faterion sy’n ymwneud â waliau cynnal nad ymdriniwyd â hwy yn dod i ben.
Os ceir canlyniadau boddhaol o ran yr uchod, ar hyn o bryd disgwylir i’r gwaith ddechrau yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol hon.
Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A oes gan y Gweinidog bwerau i sicrhau na chaiff cerbydau ym masnachfraint rheilffyrdd Cymru eu cyfeirio i wasanaeth masnachol ATW o Aberystwyth, hy bod y cerbydau yn aros ar lwybrau’r fasnachfraint ac nad ydynt yn cael eu cyfeirio i lwybrau eraill? (WAQ53853)
Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae pwerau gennyf i sicrhau bod y gwasanaethau a nodir yn y cytundeb masnachfraint yn cael eu darparu gan ddefnyddio cerbydau priodol.
Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A yw’r Gweinidog yn ymwybodol o drafodaethau rhwng ATW a Threnau Virgin ynghylch rhyddhau llwybrau amserlen sy’n cael eu dal gan ATW ar hyn o bryd ac a wnaiff Gadarnhau a oes rheolaeth/cymeradwyaeth Gweinidogol ynghylch rhyddhau llwybrau o’r fath? (WAQ53854)
Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae Trenau Arriva Cymru yn edrych ar wrthdaro posibl rhwng llwybrau ar gyfer eu gwasanaethau sydd wedi’u hamserlennu a gwasanaethau Virgin Trains arfaethedig sydd wedi’u cynnwys yn fersiwn drafft amserlen mis Rhagfyr 2009. Mae Trenau Arriva Cymru wedi dweud wrth swyddogion nad ydynt wedi cael trafodaethau â Virgin Trains hyd yma.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A fydd y 3.4 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ar 24ain Mawrth yn helpu myfyrwyr ag anghenion anabledd cymhleth? (WAQ53863)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Bydd. Bydd yn cefnogi AALlau i gyflwyno neu sicrhau darpariaeth sy’n destun datganiad i bobl ifanc ag anghenion cymhleth mewn ysgolion arbennig ôl-16 a darpariaeth y tu allan i’r sir. Ym maes Addysg Bellach bydd yn helpu SABau i gyflawni eu rhwymedigaethau i ddysgwyr ag anawsterau a/neu anableddau dysgu mewn amgylchedd dysgu prif ffrwd. Bydd dysgwyr ag anghenion cymhleth sy’n cyflawni rhan o’u haddysg mewn rhaglenni prif ffrwd yn cael budd.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A fydd y 3.4 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ar 24ain Mawrth yn berthnasol i lefel cyn mynediad cyrsiau lefel mynediad ac uwch? (WAQ53864)
Jane Hutt: Bydd. Mae ysgolion arbennig ôl-16 a darpariaeth y tu allan i’r sir yn canolbwyntio ar anghenion y dysgwr ac yn cynnwys cyrsiau ar lefel cyn mynediad ac ar lefel mynediad.
Mae’r £2.3m ychwanegol a ddyrannwyd i golegau wedi’i ddarparu i gynyddu arian ychwanegol y bwriedir ei ddefnyddio i gefnogi dysgwyr sydd ar raglenni prif ffrwd ac felly, nid yw’n cwmpasu cyrsiau lefel cyn mynediad.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A fydd y 3.4 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ar 24ain Mawrth yn cael ei neilltuo mewn colegau? (WAQ53865)
Jane Hutt: Bydd. Mae colegau wedi derbyn £2.3m ychwanegol, a chaiff yr arian hwn ei ddarparu i gefnogi dysgwyr unigol a enwyd. Mae’n ofynnol i golegau roi cyfrif am arian ychwanegol drwy Dystysgrifau Gwariant a gyflwynir i’m Hadran ar ddiwedd bob blwyddyn academaidd.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa feini prawf fydd yn angenrheidiol i unigolyn ifanc gael cyllid mynediad? (WAQ53866)
Jane Hutt: Mae’r arian ychwanegol yn seiliedig ar asesiad diagnostig o anghenion y dysgwr a chaiff ei ddyrannu i golegau ar sail meini prawf a gyhoeddir yn flynyddol.
Caiff darpariaeth i ddysgwyr mewn ysgolion arbennig a darpariaeth y tu allan i’r sir ei sicrhau gan AALlau ar sail anghenion unigol ac yn unol â datganiadau anghenion addysgol dysgwyr.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A fydd y 3.4 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ar 24ain Mawrth yn berthnasol i sgiliau annibyniaeth a chymdeithasol arbenigol? (WAQ53867)
Jane Hutt: Bydd. Caiff sgiliau annibyniaeth a chymdeithasol arbenigol eu cynnwys yn yr hyn a ddarperir gan ysgolion arbennig ôl-16 ac ysgolion y tu allan i’r sir.
Ym maes Addysg Bellach, mae’n bosibl bod rhai dysgwyr sy’n derbyn cymorth drwy arian ychwanegol mewn colegau yn cael help gyda sgiliau annibyniaeth a chymdeithasol ond fel y nodwyd yn yr ymateb i WAQ53863, prif ddiben darparu arian ychwanegol yw rhoi cymorth i ddysgwyr sy’n dilyn rhaglenni prif ffrwd.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog nodi (a) pa linell wariant yn y gyllideb sy’n cynnwys y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf; a (b) unrhyw raglenni eraill y mae’r llinell hon yn y gyllideb yn eu cyllido? (WAQ53835)
Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Ariennir y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf gan linellau Dibenion Cymunedau a Dibenion Cymunedau (Buddsoddi) yn y gyllideb, sy’n ymwneud â’r elfennau refeniw a chyfalaf yn y drefn honno.
Byddaf yn gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ysgrifennu atoch i roi rhagor o fanylion i chi am wariant o’r llinellau hyn yn y gyllideb.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn bwriadu gwneud datganiad ysgrifenedig neu lafar i’r Cynulliad Cenedlaethol ar argymhellion yr adolygiad presennol ynghylch gwasanaethau cludo cleifion? (WAQ53868)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Rwy’n disgwyl i’r grŵp adolygu, a arweinir gan Mr Win Griffiths, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Abertawe Bro Morgannwg a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, gyflwyno adroddiad cyn y toriad. Byddaf yn cyhoeddi datganiad y cabinet pan fyddaf wedi ystyried y canfyddiadau, yng nghyd-destun y Diwygiadau cyfredol yn y GIG.