31/10/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/02/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24 Hydref 2013 i’w hateb ar 31 Hydref 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog rannu adroddiad y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar ofal newyddenedigol yng Ngogledd Cymru a sicrhau ei fod ar gael i’r cyhoedd?  (WAQ65755)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau newyddenedigol yng Ngogledd Cymru? (WAQ65756)

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa gyngor gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth y mae’r Gweinidog yn ei ystyried wrth beidio â datgelu gwybodaeth am resymau masnachol sensitif, gan gofio bod peidio â datgelu yn mynd yn hollol groes i gyfraith achosion Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth? (WAQ65762)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgelu unrhyw ganllawiau y mae hi wedi gofyn amdanynt neu wedi’u cael gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch ystyried datgelu gwybodaeth? (WAQ65763)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Sawl gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf y mae’r Gweinidog wedi methu ag ateb a) cwestiynau ysgrifenedig a b) cwestiynau llafar, gan honni nad oedd modd datgelu, a hynny am resymau masnachol sensitif? (WAQ65764)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa ffactorau y mae’r Gweinidog yn eu hystyried wrth ddewis peidio â datgelu gwybodaeth am resymau masnachol sensitif? (WAQ65765)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A fydd Llywodraeth Cymru yn asesu effaith newidiadau i gymorth ar gyfer gweithredwyr bysiau o system sy’n seiliedig ar ddefnyddio tanwydd i un sy’n seiliedig ar filltiroedd? (WAQ65776)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o wariant Llywodraeth Cymru ar hysbysebu gwasanaeth T9, Bws Gwennol y Maes Awyr, gan gynnwys cyfanswm y gwariant hyd yn hyn? (WAQ65777)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi i weithredwr gwasanaeth T9, Bws Gwennol y Maes Awyr, yng nghyswllt teithwyr rheolaidd? (WAQ65778)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw’r Gweinidog yn bwriadu asesu effaith colli llwybrau bysiau gwledig ym Mro Morgannwg? (WAQ65779)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi enwau’r aelodau sy’n rhan o’r grwp gweithredu y cyfeiriwyd ato yn ei datganiad ar 22/10/13 (System Drafnidiaeth Integredig De-ddwyrain Cymru) gan gynnwys: a) y dyddiadau y bu i'r aelodau gael eu gwahodd ac y bu iddynt dderbyn ei gwahoddiad; a b) manylion unrhyw gyflog/cydnabyddiaeth ariannol/treuliau a all gael eu talu/a fydd yn cael eu talu? (WAQ65782)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Beth yw’r gofynion mynediad ar gyfer Twf Swyddi Cymru; a wrthodir mynediad i unrhyw bobl ar sail heblaw oed, ac os felly ar ba sail y gwneir hynny? (WAQ65783)

Ken Skates:

The eligibility criteria for a Jobs Growth Wales participant is outlined below:

     

  • A young person must not be of compulsory school age
  •  

  • A young person must not be in full time school, higher education or college
  •  

  • A young person must be ordinarily a resident in Wales
  •  

  • A young person must not be under a contract of employment of over 16 hours per week
  •  

  • A young person must be aged 16 – 24 at the point of commencing the Jobs Growth Wales job opportunity
  •  

  • A young person must not be an ineligible overseas national
  •  

  • A young person must not be in custody or remand
  •  

  • A young person must not be in receipt of an Assembly Learning Grant or Education Maintenance Allowance
  •  

  • A young person must not have been referred to or participating in the Department for Work and Pensions (DWP) Work Programme or Work Choice Programme
  •  

  • A young person must not be undertaking any other Welsh Government work based learning programme at point of commencing a Jobs Growth Wales job
  •  

  • A young person must not be currently employed in a Jobs Growth Wales job opportunity
  •  

A young person must comply with all of the above criteria to be eligible for a Jobs Growth Wales job opportunity.

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgelu cyfanswm gwariant y gwaith diweddar o adnewyddu ail a phumed llawr Ty Hywel ar osodiadau a ffitiadau, e.e. carpedi? (WAQ65767)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgelu cyfanswm gwariant y gwaith diweddar o adnewyddu ail a phumed llawr Ty Hywel ar unrhyw gyfarpar TG newydd?  (WAQ65768)

 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgelu cyfanswm gwariant y gwaith diweddar o adnewyddu ail a phumed llawr Ty Hywel ar ddodrefn newydd ar gyfer y swyddfa, gan gynnwys ffigurau ar wahân ar gyfer cadeiriau, desgiau a byrddau eraill? (WAQ65769)

Derbyniwyd ateb ar 5 Tachwedd 2013

The Minister for Finance and Government Business (Jane Hutt): Total expenditure on new office furniture was £616,010 (excluding VAT). This figure includes the cost of desks, chairs, tables, soft seating and storage. Separate figures for the items requested are provided in the table below:

 

Chairs – 387

£173,700

Desks – 182

£112,427

Tables – 34

£75,076

 

Welsh Government’s office accommodation at Ty Hywel has been refurbished for the first time in 14 years, bringing it up to standard, and including remedial work to repair damage caused by water ingress. This work was overdue, and necessary to improve both the functionality and performance of the offices, and deal with additional requirements. This Government is achieving substantial savings from its estate overall. As a result of implementing our Location Strategy for 2010-15, we have significantly reduced the number of offices we operate from and are on course to deliver savings of £18m over the period. We expect additional annual savings of approximately £5m from 2015.

 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgelu cyfanswm gwariant y gwaith diweddar o adnewyddu ail a phumed llawr Ty Hywel ar setiau teledu newydd, gan roi cyfanswm y setiau teledu a brynwyd?  (WAQ65770)

Derbyniwyd ateb ar 5 Tachwedd 2013

Jane Hutt: Total expenditure on 88 new televisions was £ 46,598 (excluding fees and VAT).

Welsh Government’s office accommodation at Ty Hywel has been refurbished for the first time in 14 years, bringing it up to standard, and including remedial work to repair damage caused by water ingress. This work was overdue, and necessary to improve both the functionality and performance of the offices, and deal with additional requirements. This Government is achieving substantial savings from its estate overall. As a result of implementing our Location Strategy for 2010-15, we have significantly reduced the number of offices we operate from and are on course to deliver savings of £18m over the period. We expect additional annual savings of approximately £5m from 2015.  

 

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn yr adroddiad ‘No Turning Back’ gan Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru yn 2010 a’r argymhellion a gyflwynwyd ynddo, y gwnaethoch chi eu cymeradwyo yn 2011, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu strategaeth gaffael gwaith adeiladu hollol gydweithredol? (WAQ65773)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn y gwaith ymchwil diweddar “Improving the Visibility of Forward Work Programmes” a gynhyrchwyd gan Grwp Llywio’r Strategaeth Gaffael Gwaith Adeiladu, a yw'r Gweinidog wedi ymrwymo i ddatblygu rhaglen gyfalaf flynyddol Cymru-gyfan ar gyfer Awdurdodau Lleol?  (WAQ65774)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn yr adroddiad ‘No Turning Back’ gan Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru yn 2010 a’r argymhellion a gyflwynwyd ynddo, y gwnaethoch chi eu cymeradwyo yn 2011, pryd y mae’r Gweinidog yn bwriadu rhoi’r argymhellion hyn ar waith? (WAQ65775)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Sawl canllaw clinigol NICE a gyhoeddwyd nad ydynt wedi’u gweithredu’n llwyr ar draws pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru? (WAQ37754)

Derbyniwyd ateb ar 5 Tachwedd 2013
Mark Drakeford: I will write to you and a copy of the letter will be put on the internet.

 

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi, yn y 12 mis diwethaf, a) sawl canllaw clinigol NICE a drafodwyd gyda’r bwriad o’i weithredu, b) pa ganllawiau NICE oedd y rhain, ac c) dyddiadau’r trafodaethau? (WAQ65758)

Derbyniwyd ateb ar 5 Tachwedd 2013

Mark Drakeford: NICE disseminate their guidelines directly to the NHS in Wales. The implementation of NICE clinical guidelines is the responsibility of Local Health Boards and Trusts. I expect Local Health Boards and Trusts to take full account of NICE Clinical Guidelines when planning and commissioning services, as they are developed based on the best available evidence. 

 

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog restru nifer yr Adolygiadau o Achosion Difrifol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf gan roi dadansoddiad ym mha flwyddyn y bu’r digwyddiadau hyn? (WAQ65771)

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi ffigurau am nifer y plant a fu farw yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf a hwythau yng ngofal neu o dan oruchwyliaeth awdurdod lleol? (WAQ65772)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sawl llawdriniaeth yr amcangyfrifir y bydd yn cael ei gohirio o ganlyniad i bwysau’r gaeaf eleni? (WAQ65780)

Derbyniwyd ateb ar 4 Tachwedd 2013

Mark Drakeford: As I explained during Plenary on 23 October, it clearly not possible to provide a meaningful estimate od the sort sought, as winter pressures arising from adverse weather conditions are inherently unpredictable. Health Boards across Wales are responsible for the care of their resident populations and are expected to manage and review their own situations accordingly.

 

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Ar gyfer pob un o’r pum mlynedd diwethaf, a wnaiff y Gweinidog nodi sawl llawdriniaeth orthopedig a ganslwyd dros fisoedd y gaeaf yn rhanbarth bwrdd iechyd Hywel Dda? (WAQ65781)

Derbyniwyd ateb ar 4 Tachwedd 2013

Mark Drakeford: The attached table shows the number of orthopaedic operations postponed in the Hywel Dda region in each of the last five years. The data covers the months of November – March (winter). The total number of cancellations has shown a decrease over the years.

 

Nov-March

2008/9

2009/10

2010/11*

2011/12*

2012/13*

Total Cancelled

645

843

520

376

299

 

Note * Due to data software issues data for Pembrokeshire is not available from 2010, this is being worked through as software is updated across the Health Board.

 

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa ddadansoddiad cost a budd a gynhaliwyd wrth gynhyrchu a dosbarthu’r llawlyfr “Clear and Easy: A handbook for making written information easy to read and understand for people with learning disabilities"? (WAQ65766)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi data a manylion y dadansoddiad prawfesur polisïau o safbwynt gwledig a gynhaliwyd wrth i Lywodraeth Cymru benderfynu ar setliadau ariannol awdurdodau lleol?   (WAQ65760)

Derbyniwyd ateb ar 5 Tachwedd 2013

Lesley Griffiths: Local Authority settlements are determined using a funding formula designed to reflect needs across Wales. The formula utilises a wealth of different information on the demographic, physical, economic and social characteristics of each Local Authority. The additional need to spend on service provision in rural Authorities is accounted for by incorporating measures of population dispersion and sparsity into the formula where appropriate.

Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ryddhau gwybodaeth am nifer yr achosion misol o TB mewn buches o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys ac o fewn radiws 50 milltir i’r Ardal Triniaeth Ddwys ers cyflwyno’r rhaglen brechu moch daear?   (WAQ65759)

 

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa gyfran o gyllideb y portffolio Cyfoeth Naturiol a Bwyd sydd wedi’i dyrannu ar gyfer mesurau gwariant ataliol? (WAQ65761)

Derbyniwyd ateb ar 5 Tachwedd 2013
 

Alun Davies: The investments we are making to manage our natural resources now and in the longer term could all be defined as preventative spending measures. There are many examples within my portfolio where our investments are preventative in nature, not just in terms of preventing unnecessary future investments, but also preventative in terms of legislation or risk of infraction.