Cynigion a Gwelliannau i’w trafod yn y Dyfodol
Cynnig heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd ar 01 Mawrth 2011
NNDM4680 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Mesur Seneddol ynghylch Diogelu Rhyddidau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).
I weld copi o’r Mesur Seneddol Ynghylch Diogelu Rhyddidau ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/protectionoffreedoms/documents.html