Cynigion a Gwelliannau i’w trafod yn y Dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 1 Mai 2012
NNDM4980 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i’r cynnig o dan yr eitem olaf o fusnes (NDM4979) gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 8 Mai 2012.
NNDM4981 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.2 yn cytuno bod Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 15 Mawrth 2012, yn cael eu dirymu.