01/05/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 1 Mai 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Ebrill 2013

Dadl Fer

NDM5215 Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Adeiladu Rhwydwaith Ffyrdd Gwledig ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain: Yr achos dros wneud gwaith deuoli ar yr A40 yn Sir Benfro

NDM5216 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod y rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau’r GIG yn gwneud hynny'n gyfrifol.

2. Yn gresynu at effaith andwyol ymddygiad anghyfrifol ymhlith cleifion gan leiafrif o bobl sy'n defnyddio GIG Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i annog cleifion i beidio ag ymddwyn yn anghyfrifol a hyrwyddo mwy o gyfrifoldeb ymhlith y rhai sy'n defnyddio’r GIG.

NDM5224 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r cylch gwaith i'r Comisiwn ar Lywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus o fynd i'r afael â'r diffyg atebolrwydd democrataidd presennol yn y GIG drwy ystyried:

a) etholiadau uniongyrchol i Fyrddau Iechyd Lleol;

b) goruchwylio democrataidd o drefniadau cydweithio a chyllideb gyfun rhwng Byrddau Iechyd ac awdurdodau lleol;

c) ethol defnyddwyr gwasanaethau i Gynghorau Iechyd Cymuned; a

d) atebolrwydd ariannol Byrddau Iechyd Lleol yn uniongyrchol i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol.

NDM5225 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 29 a 30: Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2013; a

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 29 a 30, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

NDM5226 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 26 a 26A: Y Cyfnod Ailystyried’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2013; a

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 26 a 26A, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

NDM5227 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 21 a 27: Cyflwyno Adroddiadau ar Offerynnau Statudol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2013; a

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 21 a 27, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

NDM5228 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod yn rhaid i gymorth i safonau ysgolion yng Nghymru yn y dyfodol ganolbwyntio ar alluogi pob disgybl i gyrraedd ei lawn botensial a rhoi'r pwer i ysgolion ysgogi cynnydd mewn safonau.

2. Yn nodi bod dadansoddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig yn pwysleisio y gellir codi safonau mewn ysgolion ar sail disgyblion unigol pan fydd ysgolion yn canolbwyntio ar drywydd eu disgyblion gymaint ag ar eu safon gyrhaeddiad absoliwt, gyda'r defnydd priodol o werthuso a monitro mewnol.

3. Yn croesawu'r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Estyn yn cyflwyno adroddiad ar ba mor effeithiol y mae'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a disgyblion â chefndir mwy cefnog.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu rhaglen monitro disgyblion unigol i fesur cynnydd disgyblion, gan alluogi ysgolion i dargedu ymdrechion at y disgyblion hynny nad ydynt yn cyrraedd eu potensial;

b) cynyddu'n sylweddol y cyllid ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion a sicrhau bod ysgolion yn rhoi cyhoeddusrwydd i sut y mae'r cyllid hwn wedi'i wario, i annog atebolrwydd, targedu effeithiol a rhannu arfer gorau; ac

c) diwygio'r system ar gyfer bandio ysgolion i sicrhau ei bod yn mesur perfformiad ysgol o ran perfformiad disgyblion unigol, gan gynnwys ailstrwythuro'r system i ddangos mor dda y mae ysgolion yn cyflawni wrth gynorthwyo disgyblion i gyrraedd eu potensial eu hunain.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 25 Ebrill 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5224

1. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu is-bwynt d)

NDM5228

1. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 4

2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1 ychwanegu ‘a chyrff addysgol’ ar ôl ‘rhoi pwer i ysgolion'

3. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 4a) dileu ‘datblygu’ a rhoi ‘hyrwyddo’ yn ei le.

4. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 4b) a rhoi yn ei le

‘ystyried cyllid i’r dyfodol ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion yn seiliedig ar ddadansoddiad Estyn o'i effeithlonrwydd a thystiolaeth berthnasol arall’

5. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu ar ddiwedd is-bwynt 4c)

‘, a hyrwyddo cydweithio cyn cystadlu’

NDM5216

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu y gwastraffwyd gwerth amcangyfrif o £21.6 miliwn o feddyginiaethau ledled Cymru yn 2011/12 ac yn croesawu’r ymgyrch ddiweddar a lansiwyd gan fyrddau iechyd lleol Cymru i leihau gwastraffu diangen ar feddyginiaethau.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 26 Ebrill 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5224

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

‘mabwysiadu manyleb safonol o’r sgiliau, y profiad a’r doniau a fyddai’n ofynnol i aelodau sy’n cael eu hethol i bwyllgorau gwaith Cynghorau Iechyd Cymuned;’

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu ‘roi’r cylch gwaith i’r Comisiwn ar Lywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus o fynd i'r afael â'r diffyg atebolrwydd democrataidd presennol yn y GIG drwy ystyried:’ a rhoi yn ei le ‘gynnwys yng nghylch gorchwyl y Comisiwn ar Lywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus y diffyg atebolrwydd democrataidd presennol yn y GIG ac a fyddai modd mynd i'r afael â hyn drwy:’

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt d) a rhoi yn ei le:

‘rôl y Cynulliad Cenedlaethol ac awdurdodau lleol yn nhrefniadau atebolrwydd ariannol GIG Cymru.’

4. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

‘gofyniad ar fyrddau iechyd lleol i gyhoeddi manylion pob eitem o wariant sy’n fwy na £500 (ar wahân i gostau staff unigol) ar-lein ar gyfer craffu cyhoeddus’.

5. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

‘rôl mudiadau’r trydydd sector i wella atebolrwydd y GIG i bobl Cymru.’

NDM5228

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1, ar ôl ‘disgybl' cynnwys, ‘ni waeth beth fo'i gefndir na'i allu,’.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 3.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 4a) a rhoi yn ei le:

‘Galluogi ysgolion i fesur cynnydd disgyblion yn gyson ar draws y wlad, gyda chyn lleied o fiwrocratiaeth â phosibl.’

4. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Yn is-bwynt4b), dileu popeth cyn ‘wedi’i wario’ a rhoi yn ei le ‘Sicrhau bod ysgolion yn rhoi cyhoeddusrwydd i sut y mae’r cyllid’.

5. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Yn is-bwynt4c), dileu popeth ar ôl ‘disgyblion unigol,’.