Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod yn y dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 1 Mai 2014
NNDM5501 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Cymru sy’n addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mai 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o Fil Cymru i'w weld yma:
Dogfennau’r Bil — Bil Cymru 2013-14 — Senedd y DU
NNDM5502
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnig yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd i wahardd y defnydd o sigaréts electronig mewn mannau cyhoeddus caeedig a gweithleoedd yng Nghymru.
2. Yn nodi bod 2.1 miliwn o oedolion yn y DU, yn ôl amcangyfrif, yn defnyddio sigaréts electronig ar hyn o bryd.
3. Yn nodi bod canllawiau iechyd y cyhoedd oddi wrth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ‘Tobacco: harm-reduction approaches to smoking’ yn cefnogi’r defnydd o gynnyrch trwyddedig sy’n cynnwys nicotin i helpu pobl i ysmygu llai neu i roi'r gorau i ysmygu.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r dystiolaeth sy’n sail i’r cynigion ar sigaréts electronig, er mwyn darparu eglurder ar gyfer cyfiawnhau'r cynigion hyn ym Mil Iechyd y Cyhoedd.
Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd ar gael yn:
http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/white-paper/?skip=1&lang=cy
Mae canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ‘Tobacco: harm-reduction approaches to smoking' ar gael yn:
http://www.nice.org.uk/nicemedia/live/14178/63996/63996.pdf
Cefnogir gan:
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)