Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 1 Gorffennaf 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Mehefin 2009
Dadl Fer
NDM4258 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Y Chwyldro Twitter - amser am adnewyddiad democrataidd?
NDM4263 Gareth Jones (Aberconwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Dirwasgiad Economaidd Byd-eang Presennol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2009
Nodyn: Ymateb y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mehefin 2009.
NDM4256
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) rhoi sylw i bryderon cleifion ynghylch triniaeth IVF yng Nghymru.
b) gweithio tuag at weithredu arweiniad NICE o ran cylchoedd triniaeth IVF.
Gellir gweld arweiniad NICE drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
h
ttp://www.nice.org.uk/nicemedia/pdf/CG011niceguideline.pdf
NDM4257
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:
Yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru).
Sylwer: Cafodd y Mesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol eu gosod gerbron y Cynulliad ar 18 Gorffennaf 2008.
Cafodd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 ar y Mesur Arfaethedig Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) ei osod gerbron y Cynulliad ar 29 Ebrill 2009.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 26 Mehefin 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4256
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu’r cyfan ac yn ei le rhoi:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y pryderon sy’n effeithio ar yr holl gleifion sy’n gorfod cael triniaeth IVF;
2. Yn cymeradwyo’r camau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i weithio tuag at weithredu arweiniad NICE o ran cylchoedd triniaeth IVF ar sail mynediad cyfartal ym mhob rhan o Gymru;
3. Yn nodi bod rhaid asesu’r buddsoddiad pellach yn y maes hwn yng nghyd-destun ehangach datblygiadau eraill yn y gwasanaeth iechyd.
Mae arweiniad NICE ar gael yn yr hyperddolen isod:
http://www.nice.org.uk/nicemedia/pdf/CG011niceguideline.pdf