Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 1 Hydref 2013
Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Mai 2013
NDM5250 Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Eiddo Deallusol sy’n ymwneud â rhyddid gwybodaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill documents — Intellectual Property Bill [HL] 2013-14 — UK Parliament
Cynigion a gyflwynwyd ar 1 Hydref 2013
NDM5314 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Simon Thomas (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid.