Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 1 Rhagfyr 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Tachwedd 2010
Dadl Fer
NDM4603 Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Bryniau Clwyd - Trysor Cenedlaethol
NDM4604 Nick Ramsay (Sir Fynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i’r canlynol cyn cau ysgol:
(a) yr asesiad effaith ar y Gymuned;
(b) yr asesiad effaith ar yr Iaith; ac
(c) asesiad o safon addysg yr ysgol
2. Yn credu y dylai’r broses ymgynghori ar gau ysgolion fod yn fwy tryloyw a chadarn ac yn hollol agored i’r cyhoedd.
NDM4605 Gareth Jones (Aberconwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar Ddysgu ac addysgu Cymraeg fel ail iaith a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Medi 2010.
Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2010.
NDM4606 Sandy Mewies (Delyn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, ‘Gwneud yn Fawr o Ddigwyddiadau Chwaraeon Mawr yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2010.
Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros Dreftadaeth i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2010.
NDM4607 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Tachwedd 2010.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 26 Tachwedd 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4604
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu’r cyfan a rhoi’r canlynol yn ei le:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Nodi bod Cylchlythyr 21/2009, canllawiau polisi Llywodraeth y Cynulliad ar drefniadaeth ysgolion, yn datgan bod yn rhaid rhoi, cyn cau ysgol, sylw llawn i’r canlynol:
(a) asesiad o’r effaith ar y Gymuned;
(b) asesiad o’r effaith ar y Gymraeg
(c) asesiad o safon addysg yr ysgol a safon addysg unrhyw ysgol y bwriedir trosglwyddo disgyblion iddi
2. Yn croesawu cynlluniau sydd eisoes wedi’u gosod gan Lywodraeth y Cynulliad i ddatblygu proses ar gyfer cau ysgolion sy’n fwy tryloyw, cadarn a chwbl hygyrch i’r cyhoedd
Cewch gopi o Gylchlythyr 21/2009 ar y ddolen ganlynol: