02/03/2010 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 02 Mawrth 2010

Cynnig heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd ar 23 Chwefror 2010

NDM4425

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:

Yn cymeradwyo Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai a Llywodraeth Leol) 2010.

Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 23  Chwefror 2010;

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2  ar y Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai a Llywodraeth Leol) 2010 gerbron y Cynulliad ar 29 Ionawr 2010.

NDM4427

Ieuan Wyn Jones (Ynyn Mon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:

Yn cymeradwyo Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Trafnidiaeth) 2010.

Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 23  Chwefror 2010;

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3  ar y Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Trafnidiaeth) 2010 gerbron y Cynulliad ar 29 Ionawr 2010.