Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 02 Mawrth 2011
Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Chwefror 2011
Dadl Fer
NDM4672 Christine Chapman (Cwm Cynon): Cymru: Cenedl o Oryfed mewn Pyliau?
NDM4673 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r camau sydd wedi cael eu cymryd gyda chyffuriau rheoli poen a nifer o therapïau lliniarol eraill;
2. Yn canmol gwaith y sector gwirfoddol o ran cyflenwi gwasanaethau gofal lliniarol;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu'r cyllid a'r gefnogaeth ar gyfer hosbisau, ac i ddatblygu gwasanaethau lliniarol allgymorth.
NDM4674 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi llwyddiant Cwpan Ryder a Gêm Brawf y Lludw fel digwyddiadau mawr neilltuol a gynhaliwyd yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adeiladu ar y llwyddiant hwn a chefnogi cynigion Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad a rownd derfynol cwpan clybiau UEFA Ewrop.
NDM4675 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith nad yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ddigon i ddatblygu twf economaidd tymor hir.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) Cynnig grantiau hyfforddi i gyflogwyr er mwyn cyflogi pobl ifanc ddi-waith neu bobl sydd wedi bod yn ddi-waith am dros flwyddyn;
b) Sefydlu rhaglen Swyddi, Twf ac Arloesedd i gefnogi prosiectau a fydd yn creu swyddi drwy foderneiddio'r economi;
c) Datblygu Cyfnewidfa Stoc Cymru er mwyn galluogi busnesau Cymru i gael gafael ar gyfalaf.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 24 Chwefror 2011
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4675
1. Nick Ramsay (Mynwy)
Ym mhwynt 2.c) dileu ‘Datblygu’ a rhoi yn ei le ‘Archwilio dichonoldeb’
2. Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd gweithgynhyrchu i economi Cymru ac yn gresynu methiant Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyhoeddi Strategaeth Weithgynhyrchu ar gyfer Cymru.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 25 Chwefror 2011
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4673
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dilewch bwynt tri a rhowch yn ei le:
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu'r cyllid a'r gefnogaeth ar gyfer hosbisau, ac i ddatblygu gwasanaethau allgymorth ac mae’n nodi hefyd y caiff hyn ei ystyried yn ystod tymor Llywodraeth nesaf Cynulliad Cymru gyda’r pwysau eraill arni am gyllid ac yng ngoleuni ein setliad ariannol.
NDM4674
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 ac rhoi ei le:
2. Yn croesawu cyhoeddi strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer digwyddiadau mawr a’i chefnogaeth i gynigion i ddod â rhagor o ddigwyddiadau mawr i Gymru, ac i adeiladu ar enw da cynyddol Cymru fel lle effeithiol a llwyddiannus i gynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ynddo ag iddynt arwyddocâd bydeang.
Cafodd copi o “Digwyddiadau Cymru: Strategaeth Digwyddiadau Mawr ar gyfer Cymru 2010-2020” ei ebostio at Aelodau’r Cynulliad ar 25 Chwefror 2011.
NDM4675
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dilewch y cyfan a rhoi yn ei le:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn croesawu Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd
sy’n dangos cyfeiriad newydd radical ar gyfer darparu’r amgylchedd iawn ar gyfer twf economaidd, arloesi a swyddi cynaliadwy tymor hir.
2. Yn nodi:
a) Bod y rhaglen ReACT wedi esgor ar 17,467 o leoliadau hyfforddi i weithwyr sydd newydd golli eu swyddi yng Nghymru, bod tros 1000 o bobl ifanc wedi cael prentisiaethau o dan y Rhaglen Recriwtiaid Newydd a bod 2000 o leoliadau eraill wedi’u creu yn sgil y Rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau;
b) Yr ymrwymiad o dan Adnewyddu’r Economi
i fuddsoddi mewn seilwaith sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, fel band eand cyflym a thrafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy, i symbylu twf yr economi a swyddi;
c) Gwaith parhaus Llywodraeth y Cynulliad i chwilio am opsiynau i gynyddu cyfalaf twf ar gyfer busnesau yng Nghymru, a chyhoeddi’r Strategaeth Weithgynhyrchu yn ddiweddarach y mis hwn.
3. Yn condemnio penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dorri’n sylweddol ar y gefnogaeth i ddarparu hyfforddiant a swyddi i bobl ifanc.
Cewch ragor o wybodaeth am “Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd” trwy’r ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/help/economicrenewal/?skip=1&lang=cy