Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 2 Ebrill 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 26 Mawrth 2014
Dadl Fer
NDM5483 Aled Roberts (Gogledd Cymru): Aros ar y Cledrau: Cynnal Cysylltiadau Rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru
Pwysigrwydd cysylltiadau rheilffyrdd rhwng Gogledd Cymru a'r ganolfan HS2 yn Crewe, ynghyd â'r potensial am wella'r capasiti o Wrecsam ac Arfordir Gogledd Cymru i Lerpwl a Manceinion.
NDM5481 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 5(1) o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010:
Yn penderfynu bod Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 yn cael ei diwygio fel nad yw'r swyddi na'r disgrifiadau canlynol o unigolion bellach wedi eu hanghymhwyso o aelodaeth o Fwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
a) Aelod o Dy'r Arglwyddi;
b) Unigolyn a oedd yn aelod o’r naill neu’r llall o'r paneli a benodwyd gan Gomisiwn y Cynulliad i adolygu cyflogau a lwfansau Aelodau Cynulliad yn unol â phenderfyniadau Comisiwn y Cynulliad dyddiedig 4 Gorffennaf 2007 ac 8 Mai 2008.
Mae Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 ar gael yn:
http://www.legislation.gov.uk/mwa/2010/4/contents
NDM5482 Alun Ffred Jones (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i Rywogaethau Goresgynnol Estron a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2014.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mawrth 2014.
NDM5484 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu;
2. Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r rôl y mae Uned Gyflawni'r Prif Weinidog yn ei chwarae o ran cyflawni’r dangosyddion hyn;
3. Yn gresynu at fethiant ymddangosiadol yr Uned Gyflawni i gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru yn well yn achos cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu ar gael yn:
http://cymru.gov.uk/about/programmeforgov/data?skip=1&lang=cy
NDM5485 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y bydd un o bob 10 o blant a'r glasoed yn dioddef o broblem iechyd meddwl ac yn cydnabod pwysigrwydd ymyriad cynnar i gynorthwyo pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.
2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chanfyddiadau allweddol o adolygiad 2009 o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ac yn nodi'r pryderon sylweddol yn adolygiad dilynol 2013 o faterion diogelwch.
3. Yn gresynu bod nifer y bobl ifanc sy'n aros mwy na 14 wythnos i gael gwasanaethau seiciatrig plant a'r glasoed wedi cynyddu bron bedair gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, o 199 ym mis Ionawr 2013 i 736 ym mis Ionawr 2014.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) mynd i'r afael â'r amrywiad annheg o ran argaeledd a hygyrchedd CAMHS yng Nghymru;
b) ymchwilio i'r amseroedd aros rhwng asesiad cyntaf plentyn neu unigolyn ifanc gyda CAMHS a'u hatgyfeirio dilynol i wasanaeth;
c) adolygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer unedau cleifion mewnol CAMHS a lleoliadau y tu allan i ardaloedd;
d) cyhoeddi ystadegau aildderbyn yn rheolaidd i helpu i lywio tueddiadau yn y system rhyddhau cleifion;
e) sicrhau bod yr holl staff clinigol yn CAMHS wedi cael gwiriadau diogelwch priodol;
f) sefydlu gweithdrefn gadarnach i fyrddau iechyd adrodd ar leoliadau amhriodol ar wardiau iechyd meddwl i oedolion;
g) egluro statws y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth;
h) ystyried cyflwyno addysg iechyd meddwl yn y cwricwlwm ysgol i godi ymwybyddiaeth a helpu i fynd i'r afael â materion o ran stigma; a
i) cyflwyno fframwaith cenedlaethol i sicrhau parhad triniaeth yn y pontio rhwng CAMHS a Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion, gan gynnwys system rhannu gwybodaeth wedi ei symleiddio rhwng darparwyr.
Mae'r adolygiad 2009 ‘Gwasanaethau i blant a phobl ifanc ag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl’ ar gael yn:
http://www.hiw.org.uk/Documents/477/CAMHS%20241109-w.pdf
Mae ‘Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed: Adolygiad Dilynol o Faterion Diogelwch’ (11 Rhagfyr 2013) ar gael yn:
http://www.hiw.org.uk/Documents/477/CAMHS_Final_welsh.pdf
Mae'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth ar gael yn:
http://www.wales.nhs.uk/sites3/Documents/441/SAAT%20User%20Guidance%20Welsh.pdf
Cynigion a gyflwynwyd ar 1 Ebrill 2014
NDM5487 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Atodlen 1, paragraff 1, i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 a Rheol Sefydlog 10.5:
Yn cytuno i enwebu Nicholas Bennett er mwyn ei benodi yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 27 Mawrth 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5484
1. Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi canfyddiadau adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus o ran dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu;
Mae adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus ar gael yn:
http://wales.gov.uk/docs/dpsp/publications/psgd/140120-psgd-full-report-cyv2.pdf
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dangosyddion ystadegol a thargedau ochr yn ochr â holl strategaethau a pholisïau’r Llywodraeth.
NDM5485
1. Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2. Yn cydnabod y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraethau olynol yng Nghymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc; a
3. Yn ategu’r dull partneriaeth, lle y gwelir Llywodraeth Cymru, iechyd, addysg, llywodraeth leol a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd fel partneriaid i fynd i’r afael â’r heriau parhaus o ddarparu gwasanaethau effeithiol yn y maes hwn.
2. Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod y Comisiynydd Plant wedi mynegi pryder dro ar ôl tro ynghylch y gwasanaethau cymorth i blant a’r glasoed sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 28 Mawrth 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5485
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu fod gan y toriadau termau real i'r gyllideb iechyd botensial i lesteirio gallu Byrddau Iechyd Lleol Cymru i gyflawni gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed.
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl ac yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyhoeddi gwybodaeth i ddangos ei bod yn monitro ac yn cyflawni'r ymrwymiad hwn a sut y mae'n effeithio ar wasanaethau CAMHS.