02/06/2015 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 22/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/06/2015

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 2 Mehefin 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 22 Mai 2015

NDM5767

Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mai 2015.

NDM5768

Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2015.

NDM5769

Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft Rheoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gofynion Hyfforddi) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mai 2015.

NDM5770

Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Bil Cymwysterau Cymru yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:

a) adran 2

b) atodlenni 1 a 2

c) adrannau 3 - 11

d) atodlenni 3

e) adrannau 12 - 57

f) atodlen 4

g) adrannau 58 - 60

h) adran 1

i) Teitl Hir

NDM5774 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Simon Thomas (Plaid Cymru).

NDM5775 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Altaf Hussain (Ceidwadwyr) yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Janet Finch Saunders (Ceidwadwyr).

NDM5776 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mohammad Asghar (Ceidwadwyr) yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle William Graham (Ceidwadwyr).

NDM5777 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Janet Haworth (Ceidwadwyr) yn aelod o'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

NDM5778 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mohammad Asghar (Ceidwadwyr) yn aelod o'r Pwyllgor Menter a Busnes.