02/07/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 2 Gorffennaf 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 25 Mehefin 2013

NDM5277 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Diwygio Deddf Addysg 1996) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mehefin 2013.

NDM5279 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol sefydlog 26.95 yn:

Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw’n Fil Sector Amaethyddol (Cymru) a gyflwynir yn y Cynulliad, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.

Danfowyd gwybodaeth ynghylch prif ddibenion y Bil  a gaiff ei alw’n Fil Sector Amaethyddol (Cymru) at Aelodau’r Cynulliad ar 25 Mehefin 2013.

NDM5280 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii) yn:

Cytuno y bydd yr amserlen ar gyfer Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw’n Fil Sector Amaethyddol (Cymru) fel ag y mae yn ‘Amserlen ar gyfer ystyried Bil Sector Amaethyddol (Cymru)’ a osodwyd ger bron y Cynulliad ar 25 Mehefin 2013.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 27 Mehefin 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5279

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Gresynu na fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu sicrhau bod y Bil arfaethedig yn destun proses graffu ddigonol.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddilyn y weithdrefn Bil Cyhoeddus lawn ar gyfer y Bil, ac ystyried y cyfle a gafodd i wneud hynny.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Nodi;

a) fod prif ddibenion y Bil arfaethedig yn cynnwys dulliau pennu cyflogau, a;

b) nad yw’r gyfraith cyflogaeth wedi’i rhestru o dan Atodlen 7 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.