02/11/2011 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 02 Tachwedd 2011

Cynigion a gyflwynwyd ar 26 Hydref 2011

Dadl Fer

NDM4837

Christine Chapman (Cwm Cynon): Trefi ar gyfer yr 21ain Ganrif?

NDM4838

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso creu swyddi drwy alluogi’r sector preifat i dyfu drwy:

a) canolbwyntio gwariant datblygu economaidd ar fesurau sy’n hybu twf busnes yn uniongyrchol;

b) adolygu rheoliadau Llywodraeth Cymru sy’n effeithio ar fusnesau yng Nghymru; ac

c) cynorthwyo pobl yng Nghymru i ennill sgiliau fel bod mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn agored iddynt.

NDM4839

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant llaeth, sy’n mynd i’r afael â’r arferion masnachol annheg sy’n bodoli yn y gadwyn gyflenwi, ac sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer y canlynol:

a) contract gwaelodlin llaeth amrwd safonol;

b) cod ymarfer y gellir ei orfodi i sicrhau trafodion teg rhwng ffermwyr a chwmnïau llaeth; ac

c) cyhoeddi gwybodaeth dryloyw am ddosbarthiad elw a phrisiau cyfanwerthu.

NDM4840

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu methiant Llywodraeth Cymru i ddefnyddio arian yr Undeb Ewropeaidd yn effeithiol er mwyn helpu i godi CMC cymharol rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd;

2. Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr y rhaglenni sgiliau lefel uwch ac arloesedd, megis y cynllun POWIS, at godi CMC;

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun i olynu POWIS gyda nodau ac amcanion tebyg.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 27 Hydref 2011

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4840

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad cynhwysfawr o’i defnydd o arian yr UE yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 28 Hydref 2011

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4838

1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

ymateb i’r toriadau anghymesur i gyllideb cyfalaf Cymru gan Lywodraeth y DU drwy chwilio am ddulliau arloesol o godi arian cyfalaf, ac eithrio Mentrau Cyllid Preifat, i hwyluso prosiectau seilwaith.

2. Jane Hutt (Vale of Glamorgan)

Add new sub-point at end of motion:

consulting with business and other stakeholders on the most effective way to support the Welsh economy.

2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

ymgynghori â’r byd busnes a rhanddeiliaid eraill ynglyn â’r ffordd fwyaf effeithiol o gefnogi economi Cymru.

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Sefydlu trefn ariannu drwy gynyddrannau treth fel ffordd o alluogi awdurdodau lleol i gyllido prosiectau adfywio economaidd mawr.

4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Canolbwyntio Twf Swyddi Cymru ar gyfleoedd hyfforddi yn y sector preifat.

4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Sefydlu cronfa arloesedd i ysgogi datblygiad yr economi wybodaeth.

NDM4839

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu gwaith Llywodraeth y DU i gyflwyno Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd i fonitro ac i orfodi'r Cod Ymarfer Cyflenwi Bwydydd.

NDM4840

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Yn nodi â phryder y gostyngiad yn CMC Gorllewin Cymru a’r Cymoedd o 66.8 y cant o gyfartaledd yr UE yn 2000; i 64.4 y cant (y ffigur diweddaraf sydd ar gael) yn 2008.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Yn cydnabod bod angen ymgysylltu’n ehangach â’r sector preifat i feithrin twf cynaliadwy yn CMC y rhanbarthau hyn.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Yn cydnabod bod rhaid i gynlluniau a ariannir gan yr UE symud i ffwrdd o’r "rheoliadau ticio blychau' a chanolbwyntio ar ganlyniadau hyfyw.