Cynigion i'w trafod ar 3 Chwefror 2015
Cynigion a gyflwynwyd ar 27 Ionawr 2015
NDM5680 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Arloesi Meddygol sy'n ymwneud â thrin a lliniaru clefyd, salwch, anaf, anabledd ac anhwylder meddwl; darparu gwasanaethau iechyd; llywodraethu clinigol a safonau gofal iechyd i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(ii).
Gellir gweld y Bil yn:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/medicalinnovation.html
NDM5682 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau addasiadau a sut maent yn helpu pobl i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain am gyhyd â phosibl.
2. Yn nodi canfyddiadau'r Adolygiad o Addasiadau ar gyfer Byw'n Annibynnol, a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr 2015.
3. Yn cefnogi gweithredu gan Lywodraeth Cymru i wella'r cymorth sydd ar gael i bobl sydd angen tai wedi'u haddasu.
Cewch weld copi o'r Adolygiad drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/statistics-and-research/review-independent-living-adaptations/?skip=1&lang=cy
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 29 Ionawr 2015
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5682
1. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod y profion modd ar gyfer addasiadau yn annheg ac yn hen ffasiwn.
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi argymhellion allweddol yr ymgyrch Home Truths gan Leonard Cheshire Disability a'r adroddiad No Place Like Home.
Mae copi o'r adroddiad ar gael yma:
http://www.leonardcheshire.org/who-we-are/publications/latest-publications-download/no-place-like-home#.VMpZXmYYTcs (Saesneg yn unig)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i lunio siarter cwsmeriaid yn amlinellu ymrwymiadau mewn perthynas â gwasanaethau addasu;
b) gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr tai cymdeithasol i nodi safonau ar gyfer amseroedd darparu a sicrhau eu bod yn cael eu bodloni gan bob awdurdod lleol;
c) archwilio gwasanaethau addasiadau i ganfod arfer gorau a'i roi ar waith; a
d) rhoi mecanweithiau ar waith i fonitro boddhad cwsmeriaid a chanlyniadau tymor hwy.
4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol eithrio mân addasiadau o brofion modd, fel yr argymhellir yn yr adolygiad.