Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 3 Mehefin 2015
Cynigion a gyflwynwyd ar 27 Mai 2015
Dadl Fer
NDM5771 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Môn Mam Cymru: ychwanegu gwerth at y diwydiant bwyd
NDM5772 Kirsty Williams (Brycheiniog a Maesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
Gosodwyd y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 1 Rhagfyr 2014.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 8 Mai 2015.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 6 Mai 2015.
NDM5773 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diffinio ei strategaeth i gynyddu mewnfuddsoddiad i Gymru dros y pum mlynedd nesaf; a
b) cydweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn lleoliad cystadleuol a deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi.
2. Yn cydnabod bod gostyngiad Llywodraeth y DU yn y dreth gorfforaeth wedi gwneud Cymru a'r DU ymhlith y mannau mwyaf deniadol i fuddsoddi ynddynt.
NDM5770 Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gwrthwynebu'n gryf unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998, a fyddai'n tanseilio setliad datganoli Cymru ac yn gam yn ôl o ran hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.
Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42) i'w gweld yn: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1998/42/contents (Saesneg yn unig)
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 28 Mai 2015
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5770
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi'r ymrwymiad maniffesto a wnaed gan y Blaid Geidwadol yn ystod etholiad cyffredinol 2015 i gyflwyno Bil Hawliau Prydeinig; a
2. Yn cydnabod bwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion i gyflawni'r ymrwymiad hwn.
NDM5773
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
'datblygu cysylltiadau trawsffiniol effeithiol i gynyddu buddsoddiad o'r tu allan yn ogystal â gwella potensial allforio Cymru.'
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 29 Mai 2015
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5770
1. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu ei bod yn ofynnol bod unrhyw gynnig i ddiddymu, diwygio neu ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 yn cael cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fynegi drwy Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.
NDM5773
1. Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi'r feirniadaeth ynghylch strategaeth mewnfuddsoddi Llywodraeth Cymru yn adroddiad Prifysgol Caerdydd 'Selling Wales: The Role of Agencies in Attracting Inward Investment'.
Mae 'Selling Wales: The Role of Agencies in Attracting Inward Investment' ar gael yn: http://business.cardiff.ac.uk/sites/default/files/Selling%20Wales%20FDI.pdf (Saesneg yn unig)
2. Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
sicrhau bod gwaith holl adrannau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â gwerthu Cymru dramor yn cael ei gydlynu a sicrhau bod y neges yn gyson.
3. Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU er mwyn caniatáu i Lywodraeth Cymru osod cyfradd y dreth gorfforaeth yng Nghymru.