Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 3 Tachwedd 2015
Cynigion a gyflwynwyd ar 27 Hydref 2015
NDM5856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Arolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Llunio dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol'.
Gellir gweld copi o'r adroddiad drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://www.equalityhumanrights.com/cy/llunio-dyfodol-cydraddoldeb-hawliau-dynol
NDM5857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi'i thrwyddedu o dan Ran 1 Deddf Tai (Cymru) 2014 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2015.
NDM5858 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
NDM5859 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a) adrannau 7 i 29
b) adrannau 31 i 88
c) adrannau 90 i 101
d) adrannau 103 i 119
e) adrannau 121 i 131
f) adrannau 133 i 146
g) adrannau 148 i 257
h) Atodlenni 2 i 11
i) adran 30
j) adran 89
k) adran 102
l) adran 120
m) adran 132
n) adran 147
o) adrannau 1 i 4
p) Atodlen 1
q) adrannau 5 i 6
r) teitl hir
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 29 Hydref 2015
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5856
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru i anfon neges gref i Lywodraeth y DU ein bod yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.
Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 ar gael yn: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1998/42/contents (Saesneg yn unig)