Cynigion i'w Trafod ar 4 Chwefror 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 31 Ionawr 2014
NDM5424 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd sy’n ymwneud â phrynu neu ymgais i brynu tybaco neu bapurau sigarét ar ran personau sydd o dan 18 oed a gwahardd gwerthu cynhyrchion nicotin i bersonau o dan 18 oed a throseddau, amddiffyniadau, cosbau a chamau gorfodi etc cysylltiedig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill documents — Children and Families Bill [HL] 2012-13 to 2013-14 — UK Parliament
NDM5425 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i NDM5424 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth, 4 Chwefror 2014.