Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 4 Chwefror 2014
NNDM5427 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd sy’n ymwneud ag ysmygu mewn cerbydau preifat sy’n cario person neu bersonau o dan 18 oed, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill documents — Children and Families Bill [HL] 2012-13 to 2013-14 — UK Parliament
NNDM5428 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5427 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher, 5 Chwefror 2014.