04/03/2008 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 04 Mawrth 2008

Cynigion a Gyflwynwyd ar 26 Chwefror 2008

NDM3880

Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu'r ymgynghoriad diweddaraf ar gyngor cynllunio mewn perthynas â glo, ac yn edrych ymlaen at weld cyhoeddi'r ddogfen derfynol yn fuan.

Gallwch weld y ddogfen ymgynghori ar Nodyn Cyngor Technegol Mwynau Glo 2 ar y ddolen hon:

h

ttp://new.wales.gov.uk/consultations/currentconsultation/plancurrcons/finalcoaltanconsultation/?lang=cy

NDM3881

Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cymeradwyo'r strategaeth sgiliau a chyflogaeth, Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru, a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad ar 17 Ionawr 2008;
2. Yn croesawu cyhoeddi adroddiad adolygiad Webb o addysg bellach, Addewid a Chyflawniad, ar 11 Rhagfyr 2007.

Gallwch weld strategaeth Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru ar y ddolen hon:

h

ttp://wales.gov.uk/consultations/currentconsultation/educat_skills/skillsthatwork/?lang=cy

Gallwch weld adroddiad adolygiad Webb, Addewid a Chyflawniad, ar y ddolen hon:

h

ttp://new.wales.gov.uk/topics/educationandskills/policy_strategy_and_planning/127035/webb-report?lang=cy
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 28 Chwefror 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM3881

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym Mhwynt 1:

Yn lle “Cymeradwyo” rhoi “Nodi”.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

3) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i dderbyn argymhelliad Adolygiad Leitch y dylid codi’r meincnod ar gyfer Sgiliau Canolradd o Lefel 2 i Lefel 3.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

4) Yn credu bod yn rhaid i system sgiliau sydd wedi’i harwain gan y galw gryfhau 'llais' cyflogwyr, fel y pwysleisiwyd yn Adolygiad Leitch.

Gallwch weld Adolygiad Leitch ar y ddolen hon:

http://www.hm-treasury.gov.uk/media/6/4/leitch_finalreport051206.pdf