Cynigion a Gwelliannau i’w trafod ar 4 Mawrth 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 25 Chwefror 2009
Dadl Fer
NDM4155
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Datganoli Gwirioneddol - Pŵer i’r Bobl
NDM4156 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi’r byrdwn a roddwyd ar unigolion a theuluoedd yng Nghymru gan y cynnydd o 73% yn y Dreth Gyngor er 1999;
2. Yn gresynu’n benodol yr effaith ddifrifol y mae’r codiadau yn y Dreth Gyngor wedi’u cael ar bensiynwyr yng Nghymru sydd erbyn hyn yn gwario bron chwarter o’u Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth ar fil y Dreth Gyngor;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i alluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio cyllid a ryddhawyd o ganlyniad i’w harbedion effeithlonrwydd i gyfyngu ar godiadau yn y Dreth Gyngor yn y dyfodol.
NDM4157 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi â phryder yr anghysondebau o ran Cyllido’r Heddlu yng Nghymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gydlynu camau i roi sylw i’r canlyniadau andwyol sy’n deillio o’r drefn gyllido aneglur ar gyfer ein Heddluoedd.
NDM4158 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i nodi pa fesurau y mae’n eu cymryd i ddiogelu data personol am bobl yng Nghymru a ddelir gan y Llywodraeth a gan y gwasanaethau a noddir ganddi.
Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 27 Chwefror 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4156
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y dreth gyngor yn rhoi baich anghymesur ar bobl ar incwm isel ac yn credu y dylid ei disodli gyda system decach sy’n seiliedig ar y gallu i dalu.
2. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo fel y bo’n briodol:
Yn dwyn i gof y cafodd y dreth gyngor ei chyflwyno gan y Blaid Geidwadol ac yn nodi bod y codiadau yn y dreth gyngor yn ystod y pedair blynedd diwethaf wedi bod ar y lefelau isaf a gofnodwyd.
3. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cymeradwyo’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i liniaru effaith y codiadau yn y dreth gyngor ar bensiynwyr
4. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio cyllid a ryddhawyd o ganlyniad i’w harbedion effeithlonrwydd y tu hwnt i 1% i gyfyngu ar godiadau yn y Dreth Gyngor yn y dyfodol.
NDM4157
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth benderfyniad y Gweinidog i ddefnyddio meini prawf capio gwahanol gyda heddluoedd yng Nghymru i’r rheini a ddefnyddir yn Lloegr.
2. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym mhwynt 2 dileu popeth ar ôl “Cymru” a rhoi yn ei le:
“i barhau i bwyso am fformiwla decach a threfn fwy cydlynol o gyllido ar gyfer ein heddluoedd yn unol â diogelu buddiannau Cymru.”
NDM4158
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod natur sensitif cofnodion meddygol a’r trallod a achosir i gleifion oherwydd y nifer gynyddol o achosion lle collir data.