Cynigion a gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 4 Mawrth 2015
NNDM5715
Bethan Jenkins
William Graham
Lynne Neagle
William Powell
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
a) annog moratoriwm ar gloddio glo brig ledled Cymru, er mwyn canfod a yw cyfraith cynllunio a chanllawiau cyfredol yn darparu digon o amddiffyniad i gymunedau yr effeithir arnynt gan gloddio glo brig;
b) ymateb i ymchwil i'r methiant i adfer safleodd glo brig yn ne Cymru, gan ddatgan yn benodol sut y gallai fynd i'r afael â phryderon ynghylch pa mor ymarferol yw MTAN2 a'r glustogfa 500 medr; ac
c) cefnogi awdurdodau lleol yr effeithir arnynt i wneud heriau cyfreithiol, lle bo angen, wrth geisio adfer safleoedd.