04/07/2012 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 4 Gorffennaf 2012

Cynigion a gyflwynwyd ar 20 Mehefin 2012

NDM5023

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ym mhob etholiad a refferendwm a gynhelir yng Nghymru.

}Cefnogwyd gan:

Keith Davies (Llanelli)
Christine Chapman (Cwm Cynon)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Julie James (Gorllewin Abertawe)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mick Antoniw (Pontypridd)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynigion a gyflwynwyd ar 27 Mehefin 2012

Dadl Fer

NDM5029

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Clefydau Anghyffredin

Archwilio’r cyfleoedd i roi sylw i’r problemau cyffredin a wynebir gan bobl gyda chlefydau anghyffredin.

NDM5027

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gwrthwynebu lleoli Trident, neu unrhyw arfau niwclear eraill, yn Aberdaugleddau neu’n unrhyw le arall yng Nghymru; a  

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i beidio â bwrw ymlaen i gael olynydd i Trident ac i ddefnyddio’r adnoddau a arbedwyd i greu swyddi.

NDM5030

William Graham (Dwyrain De Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod:

a) cymunedau gwledig yn wynebu heriau sylweddol gan gynnwys poblogaethau sy’n heneiddio, mynediad cyfyngedig at wasanaethau yn ogystal ag arwahanrwydd cymdeithasol ac economaidd;

b) hyfywedd busnesau a chymunedau gwledig yn cael ei danseilio gan seilwaith cyfathrebu a thrafnidiaeth wael; ac

c) diwydiant ffermio Cymru yn wynebu heriau sylweddol gan gynnwys diogelu’r cyflenwad bwyd, y newid yn yr hinsawdd ac iechyd anifeiliaid.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi rhagor o gydnabyddiaeth i amddifadedd gwledig, gan gynnwys tlodi trafnidiaeth a mynediad cyfyngedig at wasanaethau a thai fforddiadwy;

b) sicrhau nad oes oedi pellach wrth gyflwyno Prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf;

c) cydnabod manteision ysgogi’r economi wledig drwy’r rhyddhad ardrethi busnes a gwell cymorth i fusnesau bach a chanolig gwledig; a

d) gweithio mewn partneriaeth ag undebau ffermio a rhanddeiliaid gwledig fel bod cyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 29 Mehefin 2012

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5027

1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble y lleolir arfau niwclear ac yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hyn.

NDM5030

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

‘y £56.9 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf yn hwb i’w groesawu mewn ardal wledig.'

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

‘adolygu’r Grant Cynnal Refeniw i ystyried gwledigrwydd yn well.’

3. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu is-bwynt 1b a newid i:

‘seilwaith trafnidiaeth a chyfathrebu yn allweddol wrth gynnal hyfywedd busnesau a chymunedau gwledig; ac’

4. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Yn is-bwynt 2a, dileu 'rhoi rhagor o gydnabyddiaeth' a newid i 'barhau i roi cydnabyddiaeth'

5. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu is-bwynt 2b a newid i:

‘sicrhau bod Prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf yn parhau i gyflawni ymrwymiadau y Rhaglen Lywodraethu ar amser;’