05/03/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod as Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 5 Mawrth 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 26 Chwefror 2013

NDM5174 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2013 i gydnabod rôl a chyfraniad menywod yng Nghymru.

NNDM5176 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. yn nodi bod:

(a) y Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi penderfynu peidio symud ymlaen gyda safonau arfaethedig Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â’r Gymraeg;

(b) y Gweinidog nawr yn bwriadu adeiladu ar ymgynghoriad Comisiynydd y Gymraeg, i ddatblygu cyfres o safonau a fydd yn sefydlu hawliau i siaradwyr Cymraeg, o ran gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg

(c) y Gweinidog yn bwriadu gwneud gyda chymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol, reoliadau yn gwneud y gyfres gyntaf o safonau, a gwneud y safonau hynny yn benodol gymwys i bersonau, erbyn diwedd 2014.

Y gallwch weld safonau arfaethedig Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â’r Gymraeg wrth ddilyn y ddolen hon:
http://www.comisiynyddygymraeg.org/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/manylioncyhoeddiad.aspx?publicationid=50faecf9-67bb-4058-af3c-9ecdc6d14739&year=2012

Y gallwch weld ymgynghoriad Comisiynydd y Gymraeg wrth ddilyn y ddolen hon:
http://www.comisiynyddygymraeg.org/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/manylioncyhoeddiad.aspx?publicationid=3b166697-643b-435d-ac82-463543fb5cae&year=2012

Cynigion a gyflwynwyd ar 5 Chwefror 2013

NDM5162 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 5 Chwefror 2013.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

I) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

II) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

III) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

IV) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

V) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 28 Chwefror 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5174

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod dewrder menywod sydd wedi cael eu cam-drin am roi gwybod am ddigwyddiadau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo strategaeth integredig ar gyfer mynd i'r afael â thrais domestig a rhywiol.   

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o gynyddu nifer y menywod sydd mewn sefyllfa o bwer a dylanwad yng Nghymru.

NDN5176

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu ein bod, dros ddwy flynedd ar ôl pasio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn parhau i fod yn bell iawn o fabwysiadu set ffurfiol o safonau ar gyfer gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg.  

Gellir gweld Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, fel y’i pasiwyd, drwy ddilyn y linc isod:
http://www.cynulliadcymru.org/welsh_language_measure_as_passed-e.pdf

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen weithredu fanwl ar gyfer cyflwyno safonau iaith Gymraeg erbyn 2014.