Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 4 Mawrth 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 14 Ionawr 2014
NDM5402 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Kirsty Williams gyflwyno Bil i weithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 15 Ebrill 2013 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Gellir gweld y wybodaeth cyn y balot drwy fynd i:
http://www.cynulliadcymru.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill-046.htm
Cynigion a gyflwynwyd ar 21 Chwefror 2014
NDM5441 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod llwyddiant hanesyddol Cymru fel canolfan ar gyfer arloesi a diwydiant;
2. Yn cydnabod rhan ganolog strategaeth sy’n seiliedig ar allforio ar gyfer llwyddiant economaidd yn y dyfodol;
3. Yn credu bod dulliau newydd yn angenrheidiol i asesu'r gallu i allforio; a
4. Yn cefnogi ymdrechion i sicrhau potensial mwyaf posibl busnesau cynhenid i ehangu a chreu cyflogaeth a ffyniant.
Cynigion a gyflwynwyd ar 25 Chwefror 2014
NDM5444 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pryderon a fynegwyd gan Syr Bruce Keogh ynglyn ag amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ar unwaith adolygiad annibynnol o ysbytai Cymru sydd â chyfraddau marwolaeth sy'n uwch na'r cyfartaledd.
Cynigion a gyflwynwyd ar 26 Chwefror 2014
NDM5445 William Graham (Dwyrain De Cymru): Llong Ganoloesol Casnewydd – Wedi'i suddo ym 1469 ac yn 2014?
Cynyddu ymwybyddiaeth ac arwyddocâd hanesyddol unigryw'r llong hon i sicrhau ei chadwraeth a'i harddangos yng Nghasnewydd.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 27 Chwefror 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5441
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod pwysigrwydd allforio, mewnfuddsoddi a masnach o fewn y DU o ran unrhyw strategaeth ar gyfer llwyddiant economaidd i Gymru.
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod pwysigrwydd aelodaeth Cymru o’r Undeb Ewropeaidd i fusnesau Cymru a’r potensial o ran allforio, gyda 44% o allforion Cymru’n mynd i aelod-wladwriaethau eraill y UE.
3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 4, dileu ‘busnesau cynhenid’ a rhoi yn ei le ‘busnesau a leolir yng Nghymru’.
4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘Cymru’ a rhoi yn ei le ‘fel cenedl o entrepreneuriaeth, creadigrwydd, diwydiant, arloesedd cymdeithasol ac economaidd’
5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘bod’ a rhoi yn ei le ‘rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu dulliau newydd i asesu’r gallu i allforio; a’
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 28 Chwefror 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5444
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu cylch gwaith a swyddogaethau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn dilyn y pryderon a godwyd ynghylch amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru.
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa gamau y mae wedi’u cymryd i adolygu perfformiad ysbytai gyda data Mynegai Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg (RAMI) sy’n uwch na’r disgwyl.